MR. ROBERT EDWARDS. 80 STATE STREET, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 14eg, 1881, yn 76 mlwydd 1 mis a 3 diwrnod oed, Robert Edwards, 80 State Street, Utica, New York.Daeth Mr. Edwards i America o Llanuwchllyn, yn 1818, a bu yn byw am dros ddeugain mlynedd ar y Smith Hill, Deerfield, ond yr oedd wedi symud i Utica ers saith mlynedd.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus.
Y Drych ~ Ionawr 20fed 1881.
MR. ROBERT EDWARDS. 80 STATE STREET, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 14eg, 1881, yn 76 mlwydd, 1 mis a 3 diwrnod oed, Robert Edwards, State St., Utica, New York, - diweddar o Smith Hill, Deerfield lle y bu yn byw am dros 40ain mlynedd cyn symud i Utica tua saith mlynedd yn ôl.Ymfudodd Mr. Edwards gyda'i rieni o Lanuwchlyn, Sir Feirlonydd, i Utica yn y flwyddyn 1818, pan oedd y dref yn ei babandod; ac yma y cafodd ei addysg. Ystyrid ef ar y pryd yn fachgen ymdrechgar tu hwnt i'r cyffredin; a dywedir iddo ddysgu y gelfyddyd o dori ceryg, drwy lafur dyddiol, ar ôl oriau yr ysgol. Priododd yn lled ieuanc gyda Mary Jones, merch Rowland A. Jones, Deerfield, yr hon a fu farw yn fuan ar ôl genedigaeth ei hunig blentyn (John R. Edwards, yn bresenol o'r ddinas hon), pan oedd ei gŵr yn gweithio yn Cleveland, Ohio.
Ar ôl bod yn absenol yn Ohio am tua blwyddyn dychwelodd Mr. Edwards i'r parthau hyn, gan ymsefydlu yn Deerfield, ac ymbriododd â Susannah, merch David Jones, o Smith Hill, o'r hon y ganwyd iddo ddau fab a thair merch, sef David Edwards, yr hwn a laddwyd gan darw ar Frankfort Hill, tua chwe' blynedd yn ôl; Robert W. Edwards, yn bresenol yn Ilion, New York; Catherine Merry, Frankfort Hill; Eleanor Jane Inman, Remsen, a Maggie Ann Lewis, New Hartford.
Yn mhen blynyddoedd ar ôl marw ei ail wraig ymbriododd a gweddw Richard D. Richards, o Smith Hill, yr hon sydd wedi ei oroesi. Deallwn fod i'r ymadawedig chwaer yn South Gibson, Pennsylvania, sef Margaret Ellis. Fel dyn a chymydog yr oedd Mr. Edwards yn fawr ei barch yn mhlith ei holl gydnabydion; ac fel aelod crefyddol cyson a dirodres, telmlir colled nid bechan ar ei ôl yn eglwys Bethesda — megys ag y telmlwyd hefyd yn eglwys Salem, Deerfield, ar ei ymadawlad oddiyno.
Claddwyd ef yn hynod o barchus y dydd Mawrth canlynol yn eglwys Salem, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Mr. Edwards (o Mexico) a'r Hybarch W. D. Williams, ei hen fugall. Bydd ei goffadwriaeth yn barchus gan gylch eang o gyfeillion a pherthynasau.