MR. DAVID ELLIS. COUNTY HOSPITAL, AUBURN, PLACER COUNTY, CALIFORNIA.
Ionawr 3ydd, 1881, yn y County Hospital, Auburn, Placer County, California, yn 43 mlwydd oed, o'r dyfrglwyf, David Ellis, genedigol o Clwt-y-bont, plwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Daeth i'r Dalaeth yma yn 1875, o'r llech-chwareli yn Vanwert, Georgia. Bu yn dyoddef dan yr anhwyldeb a derfynodd yn angeuol iddo am oddeutu blwyddyn, a rhoddodd brawf ar rinweddau yr Harbin Springs y gaeaf diweddaf; ond profodd hyny yn gystal a medr meddygol yn aneffeithiol, a rhoddodd angeu derfyn ar ei yrfa ddaearol y dydd a nodwyd uchod.
W. J. HUMPHREY.