MRS. ELLEN EVANS. CAPEL Y NANT, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 9fed, 1881, yn ffermdy Mr. Griffith Davies, ger capel y Nant, plwyf Steuben, Swydd Oneida, New York, Mrs. Ellen Evans, mam Mrs Griffith Davies, yn 88 mlwydd oed, ar ôl tua phedair wythnos o gystudd.

Achos uniongyrchol ei marwolaeth oedd dyfrglwyf ar y galon. Bu farw John Evans, gŵr yr ymadawedig, drwy i goeden syrthlo arno a'i ladd, Rhagfyr 14eg, 1829, tra yr oedd ef gydag eraill yn cwympo coed i wneyd capel y Wesleyaid a elwir Capel Sixty. Steuben. Claddwyd ef yn mynwent Capel Uchaf, a adnabyddlr hefyd wrth yr enw Capel Everett, ac yno o angenrheidrwydd yr oedd Mrs. Evans yn dewis cael ei chladdu, wrth ochr ei phrlod, yr hwn sydd yn gorwedd yno ers agos i 52 o flynyddoedd.

Cymerodd yr angladd le dydd Llun yr lleg, a daeth tyrfa fawr yn nghyd ar yr amgylchiad. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. D. C. Evans, Remsen. Yn y tŷ cyn cychwyn darllenodd a gweddiodd yn Gymraeg, yna, pregethodd yn ddifrifol yn Saesneg, gan fod llawer yn bresenol nad oeddynt yn deall Cymraeg.

Wedi myned i'r gladdfa anerchwyd y galarwyr gan y Parch. Mr. Evans yn Saesneg yn hynod o ddifrifol a theimladwy. Yr oedd ei ymadroddion yn ddetholedig, ac yn dra chymwys i'r amgylchiad. Priodol dweyd fod yr ymadawedig yn fam i Mrs. J. W. Jones, Utica, yr hon fu farw wyth mlynedd yn ôl, ac i Mrs. Edward Grifflths, Rome, fu farw y gauaf diweddaf. Mae yn aros eto o'r plant Mrs. Griffith Davies, Steuben; Mrs. Humphrey Jones, Judson, Minnesota; Mrs. Edward Vaughan. Cambria, Wisconsin, a John Evans, Beaver Dam, Wisconsin.

Aeth ei mab hynaf Evan Evans, i'r rhyfel ar doriad allan y gwrthryfel, ac yno ymaflodd afiechyd yn ei gyfansoddiad, a derfynodd ei fywyd amryw o flynyddoedd yn ôl.

Symudodd y teulu i America rhwng 50 a 60 o flynyddoedd yn ôl, o le o'r enw Rhos-y-Bela, plwyf Aberdaron, Lleyn, Arfon, a sefydlasant yn Steuben.

Mae Mr. a Mrs. Davies yn awyddus i gydnabod yn gyhoeddus y caredigrwydd mawr a dderbyniasant oddiwrth y cymydogion Cymreig yn ystod salwch yr ymadawedig; ac ni fydd iddynt tra byddant byw angbofio y gefnogaeth a'r cydymdeimlad a ddangoswyd ar yr amgylchiad.

Y Drych ~ Gorphenaf 28ain 1881.