RICHARD J. EVANS, DRY CREEK, EMPORIA, KANSAS.
Rhagfyr 22ain, 1881, ar y Dry Creek, ger Emporia, Kansas, Richard J. Evans, yn 68 mlwydd oed.Tuag 16eg mlynedd yn ôl symudodd Mr. Evans i America, o'r Pandy, ger Towyn, Meirionydd.
Bu yn brlod ddwy waith- claddwyd el wraig gyntaf yn mynwent Towyn, Meirionydd, 22ain mlynedd yn ôl, ac yn mhen tua chwe mlynedd ar ôl hyny bu iddo ail briodi yn Ebensburgh, Pennsylvania.
Bu yn byw am bum mlynedd yn Racine, Wisconsin, a thua deg mlynedd yn ôl symudodd gyda'i deulu i Emporia, Kansas. Yr oedd iddo bump o blant o'r wraig gyntaf, ac wyth o'r ail wralg, ac y maent oll yn fyw, ac yr oeddynt oll yn bresenol yn angladd eu hanwyl dad - daeth un o honynt o Omaha, Nebraska, a thri o honynt o St. Louis Missouri.
Yr oedd yn anhawdd iawn i unrhyw blant ddangos mwy o barch i'w tad nag a ddarfu i'r eiddo Mr. Evans amlygu ato ef yn ei fywyd ac yn ei angeu.
Heblaw hyn hefyd, y mae y plant henaf yn awr yn dangos parch mawr i'w llysfam, drwy anfon cynorthwy iddi tuag at fagu yr amddifaid bychain sydd eto yn rhy ieuainc i wneyd drostynt eu hunain - dwy flwydd oed yw yr ieuangaf.
Ym moreu ei oes yr oedd Mr Evans yn aelod gyda'r Bedyddwyr; ond pan briododd y waith gyntaf ymunodd a'r Methodistiaid Calfinaidd gyda'r hwn enwad y bu yn aelod ffyddlon hyd ddiwedd ei yrfa.
Ar y 24ain cafodd gladdedigaeth parchus. Gweinyddwyd ar yr achylsur gan y Parchn. John Jones, Henry Rees a William J. Lewis. Ein gweddi ninau fyddo ar i Dad ein Harglwydd lesu Grist fod yn "Farnwr i'r weddw ac yn Dad i'r amddifaid."
L. W. LEWIS.