MR. WILLIAM GEORGE. 11 WASHINGTON STREET, UTICA, NEW YORK.

Ionawr 25ain, 1881, o'r darfodedlgaeth, yn 65 mlwydd, 9 mis a 13 diwrnod oed, William George, 11 Washington Street, Utica, New York, a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol gan gynulleidfa barchus o gapel Bethesda, lle yr oedd yn aelod, pryd y gweddiwyd gan y Parchn. W. O. Williams a D. Williams (W.), ac y pregethwyd gan y Parch. Edward Davies, Waterville.

Daeth yr ymadawedig i America o Bethesda, Sir Gaernarfon, yn 1851, a threuliodd ugain mlynedd yn Maine a Vermont, cyn ei symudiad i Utica ddeng mlynedd yn ôl.

Gadawodd weddw a chwech o blant i alaru ar ei ôl, sef dwy ferch, Margaret ac Elizabeth, yn byw yn Pennsylvania, a phedwar o feibion, William W., George W., David ac Isaac C. George, oll yn trigianu yn Utica.

Y Drych ~ Chwefror 3ydd 1881.


MR. WILLIAM GEORGE. 11 WASHINGTON STREET, UTICA, NEW YORK.

Ionawr 25ain, 1881, yn Utica, ein serchus frawd, William George, brodor o Bethesda, Caernarfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad hon yn 1851. Yn nhalaethau Maiue a Vermout y treuliodd ei ugain mlynedd cyntaf yn America, ac yn Utica y bu am y gweddill o'i oes.

Yr oedd yn aelod yma yn Eglwys Bethesda, ac wedi dechreu crefydda tua 40 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sanbothol, a theimlir colled ar ei ôl.

Gadawodd ar ei ôl weddw alarus a chwech oblant. Claddwyd ef yr 28ain, yn hynod barchus, pryd y gwasanaethodd y Parch. Edward Davies, Waterville, a D. Williams a'r ysgrifenydd.
- W. O. W.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1881.