MR. GRIFFITH R. GRIFFITHS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth yr 16eg, yn Remsen, New York, bu farw yr hen frawd duwiol, a ffyddlon gyda chrefydd, Griffith R. Griffiths, ar ôl cystudd byr, wedi cyrhaedd yr oedran têg o 70 mlwydd, pum mis, a phum diwrnod oed.

Ganwyd gwrthrych ein Cofiant mewn lle a elwid Llidiardau, yn Aberdaron, Lleyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymunodd mewn priodas gyda Miss Margaret Williams, Bryn-y-groes, Llan-thyrun. Ganwyd iddynt naw o blant, pump o ba rai sydd yn fyw, i gyd-alaru a'u mam yn myd y gorthrymderau - tair o ferched a dau fab.

Yr oedd y brawd G. R. Griffiths wedi ymuno â chrefydd yn lled ieuanc yn yr Hen Wlad. Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1835, a daethant i gylchoedd Remsen a Steuben; ac yn y cylchoedd hyn y treuliodd y brawd y gweddill o'i oes, hyd nes y daeth angeu i'w ysgar o'r tŷ o glai, i fyned i'r tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Mae yn debyg mai yn eglwys Capel Isa', Steuben, yr ymunodd y brawd gyntaf ar ôl tirio yn y wlad hon; ond ymunodd wedi hyny âg eglwys Capel Coch, yr hon a adeiladodd addoldy yn mhentref Remsen, ac sydd yno eto; ond pan gorpholwyd eglwys yn Bordwell, cododd y brawd Griffiths a'i briod eu llythyrau, am ei bod yn llawer mwy cyfleus iddynt yn yr eglwys newydd; ac yr oedd ef a'i briod yn ddau o'r tri-ar-ddeg a gorpholwyd yn eglwys yn Bordwell, ac nid oes yn aros yn weddill gan angeu ond tri neu bedwar. Ond diolch i'r Arglwydd, y mae yr achos yn fyw, a'r eglwys yn dra lluosocach. Ond gwnaeth angeu fwlch pwysig pan y torodd y brawd da hwn i lawr. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn ddiacon yn yr eglwys - yr oedd mor ddylanwadol dduwiol, fel na feiddiai bechgyn annuwiol gellwair, na thyngu a rhegu, os byddai yr hen frawd yn y clywed - yr oedd ganddynt y fath barch iddo fel na fynent er dim friwio ei deimladau tyner a duwiol.

Dyna un rhinwedd mawr a chanmoladwy yn y brawd hwn, - ei ffyddlondeb hyd y gallodd. Yr oedd henaint a gwaeledd wedi ei analluogi ers rhai misoedd i allu bod yn bresenol gyda'r frawdoliaeth yn moddion gras, ac yr oedd ar y brawd hiraeth mawr am y cyfarfodydd, a'r eglwys yr un modd yn hiraethus am ei bresonoldeb yntau. Ychydig ddyddiau cyn iddo farw yr oeddwn wedi myned i dalu ymweliad âg ef - yr oedd golwg hynod o wael arno - a gofynodd y chwaer Griffiths, sef ei briod, a fuasai yn dewis i mi ddarìlen a gweddio gydag ef, atebodd y buasai. Gofynais iddo a oedd ganddo ryw ran o air Duw mwy neillduol a ddewisai i mi ddarllen? Nac oes, meddai, rhyw ran sydd yn dangos Crist yn gyfaill i hen bechadur. Cefais amser da gyda'r brawd anwyl, ond yr oedd yn rhy wan i allu siarad llawer. A phan yn siglo llaw wrth ymadael, er ei fod yn hynod o wael, nid oeddvvn yn meddwl mai y tro diweddaf am byth ar y ddaear hon i gael siglo llaw oedd y tro hwnw - ond felly y bu. Fe fu y brawd G. R. Griffitbs yn ffyddlon byd angeu, a chredaf ei fod wedi cael coron y bywyd. Yr wyf yn meddwl fod y geiriau hyny yn hynod briodol i fod ar gareg ei fedd, - "Yr hyn a allodd hwn,efe a'i gwnaeth."

Dyna beth arall oedd yn hynod yn y brawd, - Ei ddawn mewn gweddi. Yr oedd y fath ddylanwad yn dilyn ei weddiau, fel y byddai yn anhawdd i'r caletaf ei galon beidio a theimlo wrth ei wrando. Byddai dagrau yn aml yn treiglo dros ruddiau bechgyn anystyriol. Ond y mae wedi gadael yr anial, a "choffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Duw a ofalo am yr hen chwaer Griffiths a y gweddill o'i thaith fer trwy hyn o fyd.

Y Sadwrn canlynol ymgynullodd lluaws o'i hen gyfeillion a'i berthynasau i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Pregethwyd yn nghapel Bordwell, yn Gymraeg gan y Parch. J. Seth Jones, Remsen, a chan yr ysgrifenydd yn Saesonaeg, ac yna aed a'i weddillion marwol i gladdfa Fairchild. Heddwch i'w lwch.
OWEN F. PARRY.

Y Drych ~ Mai 5ed 1881.


MR. GRIFFITH R. GRIFFITHS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Know all men by these present that I, Griffith R. Griffiths of the Town of Remsen, County of Oneida and State of New York, Farmer, considering the uncertainty of this life and being of sound mind and memory, do make declare and publish this my last Will and Testament.

First : I give and bequeath unto my beloved wife Margaret the use improvement and income of all the real estate and personal property of which I shall die seized and possessed or to which I shall be entitled at the time of my decease to have and to hold the same to her for and during her natural life.

Second : I give and bequeath to my son Robert G. Griffiths the reversion or remainder of my real and personal estate and all profit income and advantage that may result therefrom from and after the decease of my beloved wife Margaret to have and to hold the same to him and his Executors and Administrators and assigns forever.

Third : I give and bequeath to my daughter Elizabeth C Griffiths five hundred dollars to be paid by my son Robert G. after the decease of my wife Margaret - in five equal annual payments, the first payment one year after the death of my wife Margaret, the remainder in yearly installments of one hundred dollars until the whole is paid without interest.

Fourth : I give and bequeath to my above named daughter Elizabeth C. one cow to be given to her when she gets married by my wife Margaret or my son Robert G whichever is in possession of my said real and personal estate at the time of said marriage.

Fifth : I give and bequeath to my son William G. Griffith and to my daughter Mary Anne wife of Richard Roberts and to my daughter Jane widow of Morris Roberts five dollars each to be paid by my son Robert one year after the decease of my beloved wife Margaret.

Sixth : If my son Robert G. shall die without leaving children then in that event the whole of my real and personal estate shall go to my daughter Elizabeth C. to have and hold forever.

Seventh : If my said daughter Elizabeth C. shall die without leaving children then in that event the legacy of five hundred dollars mentioned in the third clause of this will shall go to my son Robert G. Griffiths.

And lastly I hereby appoint my wife Margaret and my son Robert G. Executors of this my last Will and Testament - hereby revoking all former Wills by me made.

In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this twenty second day of May in the year of our Lord one thousand eight hundred and seventy one.
Signed Griffith R. Griffiths.

The above instrument consisting of one sheet was at the date thereof signed sealed published and declared by the said Griffith R. Griffiths as and for his last Will and Testament in presence of us who by his request and in his presence and the presence of each other have subscribed our names as witnesses thereto.
William H. Thomas Remsen.
Edwin Thomas Remsen.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.