MR. JOHN O. GRIFFITHS. STEINSVILLE, LEHIGH COUNTY, PENNSYLVANIA.
Ebrill 7fed, 1881, yn Steinsville, Swydd Lehigh, Pennsylvania, tua 18 milltir o Slatington, yn 35 mlwydd oed, John O. Griffiths, mab i John O. a Laura Griffiths, Celyn, Llandinorwig, Sir Gaernaron, Gogledd Cymru.Tystiolaeth un o'i feddygon am ei afiechyd oedd iddo gael y bronchitis tua blwyddyn yn ôl, ac iddo fethu a chael adferiad llwyr oddi wrtho, a hyny wedi iddo gael maith amser droi i'r darfodedigaeth.
Daeth i'r wlad hon y waith gyntaf yn y flwyddyn 1866, ac aeth yn ôl i Gymru a bu yno am tua pedair blynedd, a daeth yma drachefn tua blwyddyn yn ôl; ond ni chafodd fawr o iechyd y tro diweddaf yma.
Gadawodd wraig a thri o blant ar ei ôl mewn lle unig a digon isel eu hamgylchiadau.
Claddwyd ef y Sadwrn canlynol yn mynwent Jacksonville gan dyrfa barchus, gan mwyaf yn Ellmyniaid, y rhai a wnaethant yn rhagorol a'r teulu yn mhob modd yn eu cyfyngder, a gweinyddwyd yn yr angladd gan weinidog y lle yn deimladwy a phwrpasol iawn i'r amgylchiad.
Y mae i John frawd o'r enw William yn y wlad hon yn rhywle, ac os dygwydd iddo ef neu rywun arall weled yr hanes uchod, byddal ei fam weddw a thrallodus yn ddiolchgar iawn am air o'i hanes. Ei gefnder,
O. C. OWENS.