MR. GRIFFITH H. HUGHES, OSHKOSH, WISCONSIN.

Awst 10fed, 1881, yn Oshkosh, Wisconsin, o'r diarrhaea, bu farw Griffith H. Hughes, yn 61 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Porthmadoc, Sir Gaernarfon, G. C, Rhagfyr 12fed, 1819.

Yno hefyd y priododd ei Ellenor, Ionawr 25ain, 1850; ac yn Mai, yr un flwyddyn, ymfudodd i America. Treulodd bum mlynedd yn Milwaukee, ac yn 1855 symudydd i Oshkosh.

Yn Mehefin, 1843, dechreuodd ysgrifenu cofnodion am "ddechreuad ei fywyd," y rhai sydd yn awr yn llaw yr ysgrifenydd. Oni bae eu meithder, buasem yn erfyn am eu cyhoeddi yn gyflawn.

Eu swm ydyw iddo gael ei fagu mewn ty o'r enw Penterfyn, yr hwn aeth ar dân pan oedd Mr. Hughes tua naw mlwydd oed. Gadawodd yr olygfa argraffiadau dwys ar ei feddwl, yn ngoleuni y tân gwelai ddydd mawr y farn.

Pan yn ddeg oed collodd ei fam, a chollodd gyda hi y fraint o fyned i'r society. Cafodd addysg ddyddiol am tua thair blynedd, yna collodd ei dad, ac anfonwyd ef i wasanaethu.

Pan gyda'i ewythr yn Ysgeifiog y dechreuodd argraffiadau crefyddol dwys drin ei feddwl; ymunodd a'r eglwys pan tua 18 mlwydd oed. Pan yn 22 mlwydd oed, aeth i'r môr dan ŵr crefyddol o'r enw Captain T. Jones, a llongwr fu hyd ddiwedd ei oes. Wrth y llyfr hwn gwelwn iddo ymuno a dirwest yn ieuanc, a llafurio peth er enill eraill. Y mae ei araeth ar Ddirwest (sydd yn ei lyfr) yn dangos llawer o zel a gwybodaeth Ysgrythyrol.

Ymddengys hefyd fod ynddo y pryd hwnw awydd pregethu. Y mae wedi dechreu gwneyd un bregeth ar Diarhebion 16: 6 " rwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod." Ond gellir tybied iddi dywyllu arno ar ol ysgrifenu y rhagymadrodd a rhaniad y testyn. Y mae ol tipyn o ffwdan gyda rhaniad y testyn. A ganlyn yw swm y rhaniad — I. Y gwrthddrych a nodir, pechod. II. Y peth a wneir iddo, ei ddileu. 111. Y modd y gwneir hyny, trwy drugaredd a gwirionedd.

Y mae yr esgyrn yn rhai cryfion, ond ni lwyddodd y prophwyd i gael dim giau a chig arnynt. Ei brif rinweddau oeddynt ei wybodaeth Ysgrythyrol, cryfder ei ffydd, dwysder ei brofiad, a'i ddawn gweddio. Yr oedd hefyd yn ffyddlawn iawn i ddod i'r moddion cyhoeddus. Ond er y cyfan glynai wrtho ychydig ffolineb a barai lawer o ofid iddo ef ei hunan, a pheth dolur i eraill hefyd. Prin y mae llawer o'i golliadau yn ddigon o faint i'w gweled, ac eto yr oeddynt i'w teimlo. Dysged eraill oddiwrtho ochel y colliadau bychain.

Cydmerid ef ddydd ei angladd i benill yn y Llyfr Hymnau ar fesur neillduol, er bod yn un da, eto braidd yn anhawdd ei ganu. Pregethwyd pregeth angladdol iddo oddiar hanes Pedr o'r oruwch ystafell hyd ddydd y Pentecost, gan yr ysgrifenydd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1881.


MR. GRIFFITH H. HUGHES, OSHKOSH, WISCONSIN.

Awst 10fed, 1881, yn Oshkosh, Wisconsin, o'r diarrhoia, Griffith H. Hughes, yn 61 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Porthmadoc, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Rhagfyr 12fed, 1819; yno hefyd y priodwyd ef Ionawr 25,1850; ac yn Mai yr un flwyddyn ymfudodd i'r America.

Treuliodd bum mlynedd yn Milwaukee, ac yn 1855 symudodd i Oshkosh. Llongwr oedd wrth el alwedlgaeth, ac adnabyddid ef wrth yr enw Captain Hughes. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun i raddau mwy na chyffredin. Bwriedir ysgrifenu byrgofiant iddo i'r Cyfaill cyn hir.
D. DAVIES.

Y Drych ~ Medi 15fed, 1881.