MR. HUGH HUGHES. RACINE, WISCONSIN.
Gorphenaf 23ain, 1881, yn 59 mlwydd oed, Hugh Hughes, Racine, Wisconsin.Bu Mr. Hughes yn gystuddiol am gryn lawer o fisoedd dan effeithiau y parlys. Genedigol ydoedd o Dyffryn Ardudwy, sir Feirionydd, ac oddiyno y symudodd gyda'i rieni i Racine tua 40 mlynedd yn ôl. Felly yr oedd yn un o sefydlwyr Cymreig cyntaf ein dinas. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. H. Whitby, o Yale College, a'r Parch, Mr. House (B.) Bendithied yr Arglwydd yr amgylchiad i'r weddw a'r plant a adawyd ar ôl.