MR. WILLIAM T. HUGHES, RACINE, WISCONSIN.
Hydref 23ain, 1881, o'r darfodedigaeth, yn 71 oed, William T. Hughes, Racine, Wisconsin.Genedigol o gymydogaeth Rhiw, Lleyn, Sir Gaernarfon, ydoedd Mr. Hughes.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1865. Wedi treulio tua dwy flynedd yn Oneida County, New York, daeth i Racine, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Lletyai yn y City Hotel, yr hwn deulu yn ôl ei harfer, a fu yn hynod garedig a gofalus o hono yn ei gystudd.
Yr oedd yn gefnder i'r Capteniaid John a Hugh W. Jones.
Mawr berchid ef gan ei holl gydnabod. Cafodd angladd anrhydeddus, yn yr hwn y gweinyddwyd gan y Parchn. T. H. Jones a J. H. Griffith, Pike Grove.
J. P. W.