MR. GRIFFITH HUMPHREYS. ROCK HILL, WISCONSIN.
Mawrth 18fed, 1881, yn Rock Hill, Wisconsin, yn 72 mlwydd oed, Mr. Griffith Humphreys.Ganwyd ef yn Taicroesion, Llanddeinlolen, Sir Gaernarfon, Rhagfyr, 1808. Enw ei rieni ydoedd Humphrey ac Elizabeth Evans.
Yn 1845 ymfudodd i America, ac ymsefydlodd yn ardal Proscaeron, Wisconsin am ddeng mlynedd, nes symud i ardal Rock Hill i dreulio y gweddill o'i oes.
Yr oedd yn flaenor gyda'r M. C. ers deng mlynedd ar hugain; bu ffyddlon hyd angau, a hyderwn iddo dderbyn coron y bywyd. Yr oedd wedi bod yn nychu ers rhai misoedd, ond ni fu yn gorwedd ond pymtheg diwrnod.
Ei afiechyd oedd y dysentery, Dyoddefodd gystudd trwm yn hynod o dawel. Cafodd bob cymorth a allasai meddyg, cyfelllion. a pherthynasau weinyddu iddo; ond angau a orchfygodd.
Ychydig ddyddiau cyn el farwolaeth dywedai wrth fy mam am beidio cynhyrfu dim, mai myned adref yr oedd at yr hen bobl - "Pwy gwynai iddynt hwy y teulu dedwydd llon," meddai. Pan ofynwyd iddo un boreu a garai gael y meddyg, dywedai nad oedd arno eisiau yr un meddyg ond y meddyg mawr, yr hwn a ddichon yn gwbl iachau; ei fod ef yn dysgwyl yn ddystaw am iachawdwrlaeth yr Arglwydd. Adroddodd hefyd lawer o'i hoff hymnau gyda phleser mawr, a bu farw yn dawel a'i bwys ar ei Waredwr, yr hwn a broffesodd am 51 mlynedd.
Gadawodd wraig a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Gobeithio bydd i Dad yr amddifad a Barnwr y weddw ofalu am danom.
Hebrynwyd el weddllion y dydd Mawrth canlynol i fynwent Salem. Gorphwys bellach fy anwyl dad hyd foreu yr adgyfodiad, pryd gobeithio y cawn oll gydgyfarfod ar fryniau Caersalem.
EI FERCH.