MRS. ELIZA JENKINS. GOMER, IOWA.
Mai 1af, 1881, yn ardal Gomer, Iowa, yn 28 mlwydd oed, Eliza, priod Mr. William Jenkins, a merch henaf y Parch. S. Jones. Credwyf iddi gael ei geni yn Bethesda, Arfon, ond symudodd y teulu i'r wlad hon pan oedd hi yn lled ieuanc, ac ymsefydlodd ei thad yn weinidog ar eglwys Annibynol Middle Granville. Oddiyno derbyniodd alwad i Long Creek, Iowa, a thua chwe blynedd yn ôl symudodd y teulu i'r ardal hon. Tua dwy flwydd a haner yn ôl ymbriododd hi â William Jenkins, yr hwn sydd wedi ei adael i alaru ar ôl priod ffyddlawn a hoff.Yr oedd yn ddynes ieuanc a hoffid yn gyffredlnol, ac yr oedd y grefydd a gofleidiodd er yn ieuanc yn nawseiddio ei holl fywyd, ac yn ei chynal yn y misoedd maethion o gystudd trwm a gafodd, gan ei gweithio hefyd i'r profiad, er mor anwyl ganddi oedd y cysylltiadau, fod marw yn elw iddi.
Claddwyd hi y dydd canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. E. Jones. Yr oedd y dyrfa luosog a ddaeth i dalu y gymwynas olaf iddi ar adeg mor anfanteisiol, yn dangos fod un oedd hoff gan yr ardalyddion yn gyffredlnol wedi marw. Mae mynwent Gomer, er nad yw ond tua deg mlwydd oed, wedi derbyn llawer o'r ardalwyr i'w mynwes, ac wedi ei gwlitho gan ddagrau perthynasau a chyfellllon.
Ffarwel dros enyd fechan,
Nis gwyddom ni pa hyd,
Y byddwn ni adaw'd yn ôl
Yn rhodio yn y byd;
Ond in' gael Iesu'n gyfaill
I 'maflyd yn ein llaw,
Bydd angau du, er hacred yw,
I'n henaid unrhyw fraw.
W. H. JONES.