MR. HUGH S. JONES. OSHKOSH, WISCONSIN.

Medi 2ail, 1881, yn Oshkosh, Wisconsin, o glefyd y galon, fel y tybir, Hugh S. Jones, yn 60 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Aberdaron, Sir Gaernarfon, Mawrth 13eg, 1821. Yr oedd yn fab mabwysiedig i Mr. Hugh M. Jones a'i briod.

Yn Mai y flwyddyn 1831, dygwyd ef i ganlyn ei rieni i'r America, i Cattaraugus, New York. Yn y lle hwn y prlododd ei Ellinor yn y flwyddyn 1854; ac yn fuan wedi hyn symudodd i Oshkosh.

Drwy ei fod ef a'i briod yn cadw boarding house (a store hefyd am rai blynyddau) daeth yn adnabyddus i luaws mawr, y rhai bron yn ddieithriad a'i hoffent fel dyn gonest, sirlol a charedlg. Gwaith anhawdd yw boddhau pob math gyda bwyd a llety, ac eto y mae Mr. a Mrs. Jones wedi gallu cadw eu poblogrwydd i fyny ar hyd y blynyddau.

Cymerwyd ef yn glaf tua thri o'r gloch boreu Gwener - telmlai boen yn ei fynwes a gwaew trwy ei freichiau. Galwyd y meddyg yn ddioed; ond er pob cymorth bu farw yn mhen tua thair awr.

Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol yn mynwent capel y Bedyddwyr, pryd y daeth lluaws mawr yn nghyd. Yr oedd syndod a gofid dwys i'w ddarllen yn amlwg ar wedd y dorf yn gyffredinol. Nawdd y Nef fo ar ei weddw unig a galarus. Yn y dydd blin cuddier bi o fewn ei babell ef. "Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynoch." Dyna fel y mae efe wedi addaw, a'r

"Addewid a roddodd nl thorodd erioed."

Gweinyddwyd yn yr angladd gan dri o weinidogion.
D. DAVIES.

Y Drych ~ Medi 15fed 1881.