MRS. JENNET GRIFFITH JONES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mai 1af, 1881, yn Utica, New York, ar ôl pum mis o nychdod o'r darfodedlgaeth, Jennet Griffith, anwyl briod Mr. William J. Jones, ar ôl bod yn briod oddeutu chwe mis.Merch ydoedd i'r diweddar William Ellis Griffiths a'i briod, Ebenezer, Llandinorwlg, Arfon, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn fall 1869 - yn deulu o dad a mam, tri mab, dwy chwaer ac wyres, yn nghyd a phriod un o'r meibion; ond erbyn heddyw nid oes yn aros ond y ddau fab a'r wyres, a'r ferch-yn-nghyfralth, sef E. W. Griffith, Saint George, Kansas; William J. Griffith, Bala, Kansas; a'r wyres yn brlod i Eugene White, Utica. Yr oedd yr ymadawedig yn 25 mlwydd, 10 mis a 9 dlwrnod oed.
Hebryngwyd ei rhan farwol i dŷ ei hir gartref y dydd Mawrth canlynol i fynwent Marcy, i orphwys yn dawel hyd ganiad yr udgorn mawr yn y dydd diweddaf. Heddwch i'w llwch yw gwir ddymuniad ei thrallodus frawd,
E. W. GRIFFITH.