MRS. MARY JONES. FRANKSVILLE, RACINE COYNTY, WISCONSIN.

Yn Franksville, Swydd Racine, Wisconsin, yn nhy Mr. John Howell, ei mab yn nghyfraith, Ionawr 13eg, 1881, yn 79 mlwydd, 10 mis ac 20 diwrnod oed, tynodd Mrs. Mary Jones ei hanadl olaf. Ymadawodd a'r byd hwn mewn henain, ac oblegid henaint.

Yr oedd yn enedigol o Llanegryn, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru, ac yn ferch i Thomas Jones, Penyceunant, a Jennie Lewis, y Morfa Mawr, fel y gelwid hi yno.

Ymbriododd a John Humphrey, mab i John Humphrey, yr hwn oedd bregethwr gyda'r Annibynwyr. Ganwyd iddynt dri plentyn - un mab a dwy ferch. Y mae y ddwy ferch yn fyw - y naill yn briod â Mr. William L. Williams, Racine, a'r llall â Mr. John Howells, diacon gyda'r T. C. yn Skunk Grove.

Ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1849. Ymsefydlasant dros amser yn y Valley ger Oriskany, New York. Symudasant oddi-yno i Waterville, yn yr un Dalaith; ac yn y flwyddyn 1865, daethant i Mount Pleasant, Wisconsin, lle y buont hyd ddydd eu marwolaeth. Bu John Humphrey farw yn Ionawr, 1860, ac yn mhen amser, ymbriododd ei weddw â John W. Jones, yr hwn oedd yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr, ac yn dad i'r Proffeswr John P. Jones, Chicago. Bu yntau farw tua dwy flynedd yn ôl, fel y gadawyd Mrs. Jones yn unig unwaith eto, a hyny mewn henaint teg; ond cymerodd ei meroh, Mrs. John Howell, hi ati ei hun i fyw y gweddill o'i hoes.

Nid wyf yn gwybod digon, yn wir ddim, am fywyd yr hen fam ymadawedig, heblaw y ffeithiau uchod, y rhai a dderbyniais fel ag i'm galluogi i roddi rhyw ddarlun anmherffaith o linellau ei chymeriad. Bu yn proffesu crefydd am flynyddau gyda'r Annibynwyr, ac ystyriai ei hun yn wastad yn un o honynt, er nad ydoedd ei henw hyd y gwn ar lyfr yr un eglwys ar y ddaear. Ymddangosai yn obeithiol, ac ymhyfrydai yn fawr yn ei ddyddiau olaf mewn gwirioneddau Beiblaidd a chrefyddol.
JOS. ROBERTS.

Y Drych ~ Chwefror 24ain 1881.