MR. RICHARD D. WILLIAMS. RUSSELL COUNTY, KANSAS.

Ebrill 3ydd,1881, yn Russell County, Kansas, Richard R Jones, yn 29 mlwydd oed. Mab ydoedd i Richard Jones, Tan y Foel, gynt Llanberis, Gogledd Cymru.

Ymfudodd ein cyfaill i'r wlad hon naw mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn ardal Slatington, Pennsylvania. Dwy flynedd yn ôl ymfudodd o'r lle uchod i Kansas, gan feddwl gwneyd cartref iddo ef a'i deulu; ond ni chafodd fawr o gysur, gan ei fod wedi colli ei iechyd yn fuan iawn ar ôl dyfod yma. Bu yn lled wael am amser maith, ond yn dilyn ei waith hyd o fewn dwy wythnos yn ôl, ac yna gwanychodd bob dydd hyd ei farwolaeth. Ei glefyd oedd y dropsy.

Gadawodd wraig a phedwar o blant bach i alaru eu colled ar ei ôl. Dranoeth ar ôl ei farwolaeth claddwyd ei weddillion yn mynwent Russell, a gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. McKraein.

Priod y gweddwon a Thad yr amddifaid a fyddo yn nodded ac yn gyrnorth iddynt i ymdawelu yn nghanol eu profedigaeth lem ar ei ôl. Bellach heddwch i'w lwch.
JOHN H. ROBERTS.

Y Drych ~ Ebrill 21ain 1881.