MR. RICHARD T. JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Richard T. Jones (Abercaseg) yn cael ei ladd yn y Chwarel.
MIDDLE GRANVILLE, Tachwedd lleg. - Taflwyd ein pentref i gyffro anarferol prydnawn ddydd Mercher, y 9fed cyfisol, gan y newydd galarus fod Riohard T. Jones (Abercaseg), wedi cyfarfod a'i ddiwedd tra yn dylyn ei alwedigaeth yn chwarel Mettowe Red Slate Company. Ymddengys eu bod yn "tori ochr rydd" yn y chwarel, a bod ganddynt ar y pryd ddau dwll i'w saethu ar yr un amser. Gan fod tylla mewn "ochr rydd" yn duoeddol o daflu darnau o'r graig i gryn bellder, bydd y gweithwyr yn gyffredin yn dianc i gryn bellder oddiwrthynt, ac felly y bu yn yr amgylchiad dan sylw.Yr oedd y trancedig wedi dianc lawn 90 llath oddiwrth y tyllau cyn iddynt ffrwydro, ac yn ystyried ei hun yn berffaith ddiogel, mae yn ddiau, yn y pellder hwnw oddiwrthynt. Modd bynag, tarawyd ef gan ddarn o'r graig, gan ei ladd yn y fan.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn gweithgar, sobr, gonest, a thra dichlynaidd ei rodiad, yn aelod ffyddlon o eglwys y T. C. yn Middle Granville, ac yn ddyn a berchid yn fawr gan ei gydnabod o bob cenedl.
Genedigol ydoedd o Abercaseg, yn agos i Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn hen ddinesydd yn Middle Granville, a diau y gwelir ei le yn wag mewn byd ac eglwys. Ei oedran oedd 37. Gadawodd wraig a dau o blant i alaru ar ôl gŵr hynod o ofalus, a thad tirion tu hwnt i'r cyffredin. Cleddir ei weddillion marwol yfory (ddydd Sadwrn) yn Elmwood Cemetery.
- R. W. J.