MR. ROBERT G. JONES. MONSON, MAINE.

Mawrth 8fed, 1881, yn Monson, Maine, yn 52 mlwydd oed, Robert G. Jones, neu "Bob Maine," o'r pneumonia a'r typhoid fever.

Yr oedd ein cyfaill yn enedigol o ardal y Garnedd, ger Bethesda, Gogledd Cymru.

Collodd el rieni pan yn blentyn, a daeth i'r wlad hon pan oedd tua 17 oed.

Yn ystod y rhyfel cartrefol yn y wlad hon gwasanaethodd fel milwr cyffredin am dros dair blynedd yn y fyddin undebol.

Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parch. J. B. Hawes, gweinidog yr Annibynwyr yn y lle. Noson neu ddwy cyn ei farwolaeth yr oedd ein cyfalll yn dymuno ar i'r gweinidog ddarllen yn ei angladd y 38ain benod o Esaiah, a phregethu oddiar y rhan olaf o'r bedwaredd adnod o'r drydedd benod o Joshua; felly cafodd ei ddymuniad.

Ow! o glyw y byw i bant
Ei ethol ddoniau aethant,
Llawr oeraidd yn lle yr erys
A'i fron heb arwydd o frys.

Y Drych ~ Mawrth 24ain 1881.