MR. THOMAS JONES, SLATE DALE, SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 3ydd, 1881, yn Slate Dale, ger Slatington. Pennsylvania., yn 33 mlwydd oed, Thomas Jones.Gadawodd briod hoff ac un plentyn i alaru ar ei ôl, heblaw tad a mam, yn nghyd a phedwar o frodyr a thair o chwiorydd.
Mab ydoedd i Thomas a Jane Jones, gynt o Lanllechid, Gogledd Cymru ond yn awr o Slate Dale. Y darfodedigaeth ydoedd ei salwch. Yr oedd yn ddyn ieuanc cadarn a heinif flynyddoedd yn ôl; ond rywfodd syrthiodd i afael yr hen glefyd cyndyn a nodwyd, a bu yn ei afael am dymor maith, o herwydd mai lled arafaidd ydoedd ysgogiadau'r clefyd, ac yntau yn meddu ysbryd bywiog ac yn cael triniaeth rhagorol; ond er mor arafaidd y dygodd y gelyn ei oruchwyliaeth yn mlaen arno, profodd ei hun, fel arfer, yn sicr o'i nod. Da genym allu dweyd fod arwyddion boddhaol i gystudd ein brawd fod yn fendith iddo - yr oedd wedi rhoddi ei bwys ar Un cadarn er's misoedd cyn marw.
Byddai ychydig o frodyr crefyddol yn ymgynull ato yn gyson i gynal moddion yn ei bresenoldeb, a thystiai fod hyny yn fwynhad mawr iddo. Ychydig a siaradai, ond yr oedd yr hyn a ddywedai yn awgrymu llawer. Ymaelododd gyda'r Annnibynwyr.
Dydd Mercher canlynol i'w farwolaeth cludwyd ei weddillion marwol i'r Fair View Cemetery gan dyrfa luosog. Gwasanaethwyd yn yr angladd yn effeithiol gan y Parch. B. Morlais Hughes, Lansford, Pennsylvania. Nawdd y nef fyddo i'w weddw serchus a'i eneth fach amddifad.
JOHN W. MORRIS.