MR. WILLIAM HENRY JONES. WILMINGTON, DELAWARE.
Hydref 19eg, 1881, yn Wilmington, Delaware, William Henry, anwyl fab Mr. Henry Jones a'i briod, yn 30 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Llanllechid. Daeth y teulu i'r wlad hon pan yr oedd ef yn faban, a buont yn preswylio yn Philadelphia am rai blynyddoedd; ond yn Wilmington y maent er's yn agos i ugain mlynedd.Dysgodd el gelfyddyd fel machinist yn Erecting Shop y P. W. and B. R. R, lle y mae ei dad yn gweithio. Dangosodd pan yn leuanc fod rhyw allu yn fwy na'r cyffredin ynddo, o herwydd yr oedd yn sefyll yn uwch o'i ysgwyddau na'i gydweithwyr mewn medrusrwydd, a phe buasai yn cael byw, yn ddiddadl y gwnaethai ei nod yn y byd celfyddydol. Yr oedd er ys rhai blynyddoedd a gofal yr adran beirianol o'r Diamond State Rolling Mills, yr hwn le y mae y Cymro twym-galon J. T. Davies, Ysw., yn ei arolygu.
Bu farw yn sydyn iawn ar ôl dod adref nos Fawrth o'r congestion of the lungs, er cael pob gallu meddygol ato. Cafodd ei rieni golled fawr, a'r eglwys a'r gymdelthas y perthynal iddi.
Yr oedd yn un a gerid gan bawb a'i hadwaenai. Y Beibl oedd ei brlf lyfr, a'r dydd ar ôl ei farwolaeth daethpwyd o hyd i'r adnodau canlynol yn y tool chest oedd ganddo yn y gwaith, wedi eu hysgrifenu ar dernyn o bapyr, a'r gair ffarwel ar y diwedd. Nid ydys yn gwybod pa un ai y dydd diweddaf y bu byw yr ysgrifenodd hwynt, ynte cyn hyny. Mae yn taro i'm meddwl y fan yma am gyfamod y Parch. Dafydd Cadwaladr, yr hwn a gafwyd ar ôl dydd ei farwolaeth. Dichon fod rhyw beth wedi taro i feddwl William fod awr ei ymddatodiad yn agoshau. Dyma yr adnodau: "Y neb sydd yn eich derbyn chwi sydd yn fy nerbyn i, a'r neb sydd yn fy nerbyn i sydd yn derbyn yr hwn am danfonodd i." "Deuwch ataf fi bawb ar y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythai arnoch; cymerwch fy iau arnoch a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." "A phwy bynag a roddo i'w yfed i un o'r rhai hyn phiolaid o ddwfr oer yn enw ddysgybl, yn wlr meddaf i chwi, ni chyll el wobr."
Gwnaeth y Parch. J. H. Nixon, D. D., gweinidog yr eglwys Bresbyteraldd y perthynai iddi, sylwadau priodol ar yr achlysur. Dywedai fod bywyd William yn esiampl i'r ieuenctyd i ddylyn ei ôl, a'r peth mwyaf gwerthfawr i'r rhieni a'r plant trallodus y dydd heddyw yw meddwl am yr ysbryd addfwyn oedd ynddo yn nghyd a'r cymeriad difrycheulyd oedd yn ei wisgo. Nid oedd bosibl i neb ddod i adnabyddiaeth ag ef heb ei garu.
Daearwyd ei weddillion yn River View Cemetery. Yr oedd yn perthyn i'r urdd uchaf o gymdeithas y Seiri Rhyddion, St. John's Commandery No. 1. K. T. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus ganddynt Galr i'r teulu trallodus - y mae olwynion Rhagluniaeth yn troi o chwlth i'n golwg ni ar brydiau yr olwyn weithiau yn cael ei thori oddlwrth y pydew; ond cymerwch gysur, "chwi a gewch wybod ar ôl hyn."
Wrth ddybenu dywedaf-
Pwy all ddirnad y teimladau
A achosodd newid gwedd,
Dagrau heilltion a dywalltwyd
Pan rowd Gwilym yn y bedd.
DAVID JONES.