MR. WILLIAM L. JONES. VIRGINIA CITY, NEVADA.

Ebrill 3ydd, 1881, yn Virginia City, Nevada, William L. Jones, gynt o Rhostryfan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yr oedd o 45 i 47 mlwydd oed, ac heb brlodl. Ni fu yn wael ond chwe diwrnod o'r clefyd llym fflameg yr ysgyfaint (pneumonia).

Bu William O. Owens, Llwyn Derw, Nant Nantlle, Arfon, yn hynod o dirion wrth yr ymadawedig; ac yn ei angladd gwasanaethodd y Parch. Mr. George yn hynod o ddifrifol.

Bu William L. Jones yn gweithio flynyddau yn ôl yn Middle Granville, New York, ac oddiyno aeth i'r Hen Wlad, ryw 20 mlynedd yn ôl. Dychwelodd oddeutu 16 mlynedd yn ôl, ac aeth i fyw yr ail waith i Middle Granville, New York, yna symudodd i Emporia, Kansas.

Aeth i Gymru wedi hyny, yna dychwelodd a symudodd i Virginia City. Yr oedd yn ddyn tawel, tyner a ffyddlon yn mhob modd. Yr wyf yn deall fod brawd i'r ymadawedlg yn Bangor, Pennsylvania, o'r enw Robert O. Jones. Nid oes yma ond ychydig o Gymry, eto gwnaed pob peth yn barchus gydag angladd ein cyfaill hoff.

Yr oedd ein cyfaill yn Gymro trwyadl, ac yn hoff o'i wlad a'i genedl.
HUGH G. HUGHES (Huw Nhad).

Y Drych ~ Mai 12fed 1881.