MR. WILLIAM W. JONES, BANGOR, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 12fed, 1881, yn Bangor, Pennsylvania., William W. Jones (gynt o'r Bronydd, Llanllechid. Gogledd Cymru.), o'r darfodedigaeth, yn 67 mlwydd, 6 mis a 7 diwrnod oed.Gadawodd weddw a phump o blant yn amddifaid. Bu yn nychu am fisoedd, ond ymfoddlonodd yn dawel i oruchwyllaeth ei Dad nefol, a bu farw mewn gobaith a hyder o adgyfodiad gwell.
Yr oedd yn rhyddfrydwr selog ac egwyddorol, ac o gymeriad gonest, ac yn aelod rheolaldd o eglwys y M. C.
Cafodd gladdedigaeth barchus - ymffurfiodd urdd y "Knights of Pythias" yn orymdaith o'r tŷ i'r gladdfa, a phregethwyd gan y Parch. J. M. Salmon yn Saesneg, a'r Parch. J. Williams yn Gymraeg yn yr addoldy lle yr oedd yr ymadawedlg yn aelod.
Daeth i'r wlad hon 36 mlynedd yn ôl.
Yn ei farwolaeth collwyd cymydog cymwynasgar, priod gofalus a thad tyner galon. Rhoddwyd el weddillion i orwedd yn mynwent yr Efengylwyr yn y y lle hwn. Heddwch i'w lwch.