MR. WILLIAM LLOYD. CAMBRIA, WISCONSIN.

Hydref 28ain, 1881, yn Cambria, Wisconsin, yn 68 mlwydd a 10 mis oed, William Lloyd. Adnabyddid ef wrth yr enw William Lloyd, Gaerddina, sef enw ei hen gartref yn Dolyddelen.

Gadawodd briod yn hynod fethiantus ac amryw o blant i alaru ar ei ôl; ond y mae y plant yn haeddu clod am eu gofal a'u tynerwch yn edrych ar ôl yr hen bobl yn eu llesgedd a'u hafiechyd maith.

Yr oedd Lloyd yn hen gymeriad ar ei ben ei hun, a theimla llawer yn chwith ar ei ôl heblaw ei briod a'i blant - a mwy na'r cwbl yr oedd yn hen Gristion ffyddlon.

O fyd ar ôl aeddfedu - o'i boenau
Dybenodd pen teulu;
Er c'yd ei oes bu'n loes i lu
A wylant ar ei oer wely.
HEN LANC O CAMBRIA.

Y Drych ~ Tachwedd 10fed, 1881.


MR. WILLIAM A. LLOYD. CAMBRIA, WISCONSIN.

Yn Cambria, Wisconsin, Hydref 28ain, 1881, bu farw Mr. William A. Lloyd, yn 79 mlwydd oed; ac fel darllenwr y Cyfaill, dymunir congl fechan i'r nodion hyn.

Ganwyd William. A. Lloyd yn Gerddinen, plwyf Dolyddelen, Sir Gaernarfon, yn yr ail flwyddyn o'r ganrif hon. Enwau ei rieni oeddent Owen ac Ann Lloyd. Yr oedd ef yn un o dri efaill, yr hyn ni ddygwydd ond yn anaml, a bu ei fam farw ar yr un amgylchiad, yr hyn a wnai sefyllfa y teulu yn dra difrifol; ond gofalodd yr Arglwydd am danynt.

Ymfudodd ef i America yn y flwyddyn 1829, a chyfeiriodd ei wyneb i Sir Oneida. Dyddorol iawn oedd ei wrando yn adrodd hanes byd a chrefydd yôn Sir Oneida y blynyddoedd hyny. Yn mhen tua chwe' blynedd ar ôl dod drosodd ymunodd mewn priodas gyda yr hon sydd heddyw yn weddw alarus, a methiantus hefyd i raddau mawr. Y mae hi o deulu adnabyddus iawn yn Sir Oneida. Brawd iddi hi oedd y diweddar John S. Williams. Daliodd yr undeb priodasol am 50 mlynedd, ac yr oedd mor gryf a byw, fel mai ei rwygo orfu i angeu wneyd. Bu iddynt naw o blant - pedwar wedi ei ragflaenu ef dau yn New York, a dau yn y Dehau amser y rhyfel. Cofus genyf eu galar dwys ar eu hol; eto ymostyngasant dan "alluog law Duw."

Yn 1841, dan weinidogaeth ddifrifol Henry Rees a Moses Parry, yr enillwyd y ddau i wneyd arddeliad cyhoeddus o Fab Duw. Ymddengys eu bod o ddifrif yn y symudiad. Dechreuasant gadw addoliad teuluaidd y noson hono. Dechreu rhesymol ac addawol iawn. Daliodd argraffiadau y tymor hwnw yn fyw ar ei feddwl hyd angeu. Nid yn ei gof ef yn unig yr oeddent, ond yn nheimlad ei galon; ac er i lawer awel groes a noson dymestlog, dal ei ffordd ac ychwanegu cryfder yw hanes ei fywyd. Gwella mewn crefydd yr oedd yn ei flynyddoedd olaf, ei ysbryd yn adnewyddu, er fod ei gorph yn anmharu. Syndod iddo fyw mor hir, ac yntau yn cael aml a blin gystuddiau; a syndod iddo gael bywioliaeth mor dda wedi iddo fethu gweithio, gan ei fod ar ei oreu cynt.

Cafodd gystal ymgeledd yn ei henaint, ei fethiant a'i gystuddiau, a phe buasai ganddo filoedd o aur ac arian, ie, gwell nag a gafodd miloedd er eu meddu. Bu farw o henaint, yn hytrach nag o un clefyd penodol, yr hen babell wedi cyd-adfeilio drwyddi, ac yn dod i lawr mewn canlyniad.

Yn Cambria y treuliodd y rhan fwyaf o'r pum' mlynedd ar hugain olaf o'i oes, ac yma y cafodd le beddrod, yn mysg llawer iawn o'i geraint a'i gydnabod. Dangoswyd pob dyledus barch i'w goffadwriaeth adeg y claddedigaeth. Cafwyd gwasanaeth crefyddol yn y capel, pryd y cymerodd amryw ran ynddo. Bydded yr amddiffyn Dwyfol dros ei weddw i orphen ei gyrfa, a Duw y rhieni fyddo yn eiddo i'r plant oll - dyna ddymuniad yr ysgrifenydd,
REES EVANS

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1882.