MRS. ELIZABETH OWEN, NORFOLK, VIRGINIA.
Mehefin 6ed, 1881, yn Norfolk, Virginia, yn 44 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Owen, ar ôl pum diwrnod o gystudd.Ganwyd hi yn Abermaw, Gogledd Cymru. Pan oedd hi yn bur leuanc symudodd el thad, H. Hughes i Aberdyfi i fyw, a phan yn 23 oed priododd ac Evan Owen, Capel Maethlon.
Bu iddynt bump o blant, pedwar o'r rhai a adawodd gyda'u tad i alaru ar eu hol. Dygwyd hi i fyny gyda'r M. C., a pharhaodd gyda hwynt tra yn yr Hen Wlad; ond pan symudodd i'r wlad yma tua 10 mlynedd yn ôl, gan nad oedd yr un Cymro i'w gael yn Norfolk, ymunodd hi a'i phriod a'r Presbyterians a daliodd el phroffes hyd y diwedd.
Ar yr 8fed cyfisol gweinyddwyd yn ei hangladd gan Dr. Armstrong, gweinidog Presbyteriald, oddiar y geiriau, "Y mae, gan hyny, orphwysfa eto yn ôl i bobl Dduw."
Cyfeiriad ei phriod yw No. 1 Wavale St., Norfolk, Virginia.
ISAAC OWEN.