MRS. GWEN OWENS. 3 ROBERTS LANE, UTICA, NEW YORK.
Hydref 28ain, 1881, yn 71 mlwydd oed, Mrs. Gwen Owens, 3 Roberts Lane, Utica, New York.Merch ydoedd i Emanuel a Sarah Pritchard, o le a elwlr y Felin, Llecheiddior, Sir Gaernarfon, Gogledd. Cymru.
Pan yn 21 mlwydd oed ymbriododd â Griffith Owens, mab i Griffith ac Elizabeth Owens, Efel Uchaf, Sir Gaernarfon.
Yn 1847 ymfudasant i'r Talaethau Unedig gyda dwy ferch, Sarah ac Elizabeth, a buont byw am y ddwy flynedd gyntaf wedi eu dyfodiad yn agos i ddinas Philadelphia. Yn 1849 symudasant i Frankfort Hill, yn Swydd Oneida, New York, lle y trigiasant am ysbaid saith mlynedd. Yn 1856 prynasant fferm yn Marcy, yn agos i Utica, a buont fyw yn ddedwydd a llwyddianus gyda eu gilydd hyd nes y daeth angau i dori y briodas ar yr 21aln o fis Medi, 1878, pan y bu ei hanwyl briod Griffith Owens farw ar ôl cystudd byr, ond dirdynol o boenus, am tua deg awr ar hugain.
Er mor chwerw oedd yr oruchwyliaeth sydyn hon, cafodd Mrs. Owens gynaliaeth a chysur yn yr ystyriaeth mai "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu."
Wedi gosod y fferm, a threfnu ei hamgylchiadau, aeth i aros gyda ei merch Elizabeth, yr hon oedd wedi colli ei phrlod anwyl a thawel, Evan T. Davles, y Gulf, Mehefin 2,1879. Bu y ddwy weddw, y fam a'r ferch, fyw yn ddedwydd gyda eu gilydd hyd nos y cymerwyd y ferch yn glaf iawn, fel y bu mewn canlyniad farw mewn tangnefedd Ebrill 19eg, 1880. Ar ôl marwolaeth ei merch hoffus Elizabeth symudodd Mrs. Owens, Ebrlll 25aln, 1880, i Utica. Ardrethodd dŷ ar heol Whitesboro, a thra yn aros yno cymerwyd hi yn glaf gan enyniad yr ysgyfaint. Wedi cael ymwared i raddau o'r anhwyldeb anghysurus hwn, ymosodwyd arni gan fever and ague, yn nghyd a dirdyniadau poenus y rheumatism. Bu yn dihoeni am saith mis o dan arteithiau yr anhwylderau poenydlol hyn.
Tra yn parhau i raddau o dau effeithiau niweidiol clyniad y gwahanol fathau hyn o afiechyd, cymerodd dŷ gan el merch Sarah, yr hon oedd yn briod i Mr. Owen Thomas, Robert's Lane; a chan fod ei thŷ yn nesaf at yr eiddynt hwy, yr oedd i raddau mawr o dan arolyglaeth a gofal ei merch, yn nghyd a'r eiddo Mrs. Roberts, a weinyddai yn uniongyrchol arni. Trwy gyd -ofal tyner y ddwy, yn gystal a chyngorion a chyfferi Dr. Jacob Hunt, gwellhaodd i'r fath raddau ag i'w galluogl i fynychu tŷ yr Arglwydd, a thalu ymweliadau a'i chydnabod a'i chyfeillion. Yn wir, yr oedd pawb a'u gwelent yn credu el bod wedl cael adgryfhad a bywiogrwydd adnewyddol; ond ar foreu Sabboth, Hydref 23ain, pan wedi parotol ei hun i fyned i'r addoliad, tarawyd hi gan y parlys, ac wedi cael dau ddyrnod ychwanegol o'r un afiechyd, bu farw rhwng 12 ac 1 o'r glooh prydnawn ddydd Gwener yr 28ain o'r un mis.
Y dydd Llun canlynol dygwyd el gweddillion marwol i addoldy y T. C., ar Seneca St., pryd y gweinyddwyd, yn unol a'i dymuniad gan y Parchn. John R. Griffith, o Floyd, a Dr. Roberts, o Utica. Cludwyd yr hyn oedd farwol o honi i fynwent capel Deerfield, lle y gorwedd yn ymyl gweddillion ei phriod, ac yn agos i'r eiddo ei merch a'i mab-yn-nghyfralth.
Yr oedd Mrs. Owens yn wraig ardderchog. Gofalal hyd eitbaf ei gallu fod pawb yn ei thŷ, ac ar y fferm, yn cyflawni eu dyledswyddau yn deilwng; a chyflawnai hithau yr hyn â berthynai iddi gyda diwydrwydd, dyfalwch, a chynildeb canmoladwy. Cydymdeimlai a'r gwir dlawd, y weddw a'r amddifaid, gan lawenychu eu calon a'i rhoddion. Yr oedd el gofal yn cael ei arddangos, nid yn unig am y byd hwn a'i amgylchiadau, ond hefyd am y byd a ddaw, ac achosion tragywyddol ei hiachawdwriaeth.
Ymunodd ag eglwys y M. C. yn nghapel Marcy tua'r flwyddyn 1857 ac yr oedd bob amser yn barod i gyfranu yn llawen a siriol at gynaliad yr achos goreu, ac at bob achos teilwng a gyflwynid i'w sylw. Wedi ei dyfodiad i Utica arddangosodd ffyddlondeb neillduol, tra y gallodd, yn ei hymlyniad wrth ordinhadau tŷ Dduw; ac un o'r bethau cyntaf a wnaeth wedi derbyn gwellhad, fel y tybid, oedd cyfranu $10 at yr achos; ac yn ei chystudd diweddaf, rhoddodd siars bendant i'w merch, Mrs, Thomas, i orphen ei rhodd yn $12 hyd ddiwedd y flwyddyn. Yr oedd y ffaith syml hon yn brawf o'i gwlr ofal am achos Duw, yr hyn a gymerai Paul, fel arwydd ar Timotheus, o ffydd ddiffuant yn trigo ynddo.
Talai ei gweinidog ymweliad â hi bron bob wythnos tra y bu yn glaf, ac yr oedd ar y cyfan yn ymostyngol i ewyllys Duw. Awyddai am gael byw, ond boddlonai i ymadael pan y galwai ei Thad nefol an dani. Y gair diweddaf a ddywedodd ei bugail wrthi oedd, "Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth, canys yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol." Tra yn ymwybodol, ceisiai barablu y gair "ymddiriedwch;" ond oherwydd bloesgni ei thafod ni allai, er treio yn fynych, orphen y gair, ond yn unig ddweyd "ymddiried," ac yn y diwedd dygwyd hi "gan angylion i fynwes Abraham," Nid oedd heb ei gwendidau, fel rhyw Gristion arall; credwn fod ei rhagoriaethau yn gorbwyso yr oll.
W. R.
Y Drych ~ Tachwedd 10fed 1881.
MRS. GWEN OWENS. 3 ROBERTS LANE, UTICA, NEW YORK.
Hydref 28ain, 1881, yn 71 mlwydd oed, Mrs. Gwen Owens, No. 3, Roberts Lane, Utica, New York.Ei chartref yn yr Hen Wlad oedd Melin Llecheiddior, Sir Gaernarfon; a chartref ei phriod oedd Efail Uchaf o'r un Sir.
Buont yn byw yn Marcy am flynyddau lawer. Yr oedd yn wraig grefyddol - yn gwella gyda chrefydd fel yr oedd yn heneiddio - yn aelod anrhydeddus a ffyddlon gyda'r T. C, yn Utica, a cholled i'r eglwys oedd ei marwolaeth.
Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. R. Griffith, Floyd, a Dr. Roberts, Utica, a rhoddwyd hi gyda'r teulu yn mynwent Salem, Marcy, yn ngofal yr Hwn sydd ag agoriadau y bedd ganddo.
J. R. G.