MR. LEWIS OWENS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 27ain, 1881, yn 71 oed, Lewis Owens, Remsen.Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon dair blynedd a deugain yn ôl, o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Y mae wedi gadael priod ac amryw o blant i alaru eu colled ar ei ôl, ond yr oll wedi tyfu i oedran i allael ymdaraw drostynt eu hunain. Bu yn aelod o gyfundeb y Wesleyaiid Cymreig yn Utica, a South Trenton, a Ninetysix.
Yr oedd yn dad-yn-nghyfraith i David R. Lloyd, Marcy.
Claddwyd ef y Sadwrn canlynol, pryd y pregethwyd yn nghapel Bordwell gan y Parch. Mr. Smith o Remsen yn Saesneg, a chan yr ysgrifenydd yn Gymraeg. Yn mynwent Fairchild y claddwyd ef.