MR. OWEN O. OWENS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ganwyd gwrthddrych ein cofiant yn y Clogwyn Mawr, plwyf Berch, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1802. Mab ydoedd i Owen Humphrey a Jane ei wraig. Yr oedd yn un o wyth o blant, o'r rhai y mae dau yn awr yn fyw, sef John a Jane. Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1828. Gwnaeth broffes o grefydd yn 1831, trwy ymuno ag eglwys y M. C. yn Utica, New York.Pan yn Utica, priododd ferch ieuanc o'r enw Ann Hughes, merch i William W. Hughes, o ardal Bethel, Remsen. Ganwyd iddynt dair o ferched, o'r rhai y mae dwy yn awr yn fyw, ac yn wragedd i ddau o ffermwyr - un o honynt yn mhlwyf Steuben, a'r llall yn mhlwyf Remsen. Yn y flwyddyn 1836 symudodd o Utica i ardal Penycaerau, lle yn agos i bentref Remsen, ac ymunodd ag eglwys y M. C. yn y lle hwnw, ac yn mhen rhai blynyddoedd dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys.
A'r symudiad nesaf oedd ei symudiad o Benycaerau i ymyl pentref Remsen; a dymunodd eglwys y M. C. yn y lle hwnw arno weithredu yn ei swydd fel blaenor, yr hyn hefyd a wnaeth hyd nes i angeu ei ddiswyddo. Wedi ei symudiad i Remsen, bu farw ei wraig, a bu yntau fyw yn weddw am rai blynyddau gyda ei ferched.
Ionawr 11eg, 1869, priododd eilwaith ag un Ellen Thomas, yr hon a ddaeth yma yn weddw o Sir Fôn, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ddydd ei farwolaeth. Bu yn wael ei iechyd yn lled hir, Ei afiechyd mewn rhan, o'r hyn lleiaf, oedd y parlys, a bu farw Mehefin 4ydd, 1881, yn yr oedran o ddeunaw a thriugain mlwydd a naw mis, pryd y gadawodd briod, dwy ferch, ac amryw o wyrion a pherthynasau eraill, yn nghyd a lluaws o gyfeillion, i alaru ar ei ôl.
Pan ddeffrowyd gwrthddrych ein cofiant i weled ac i deimlo ei sefyllfa fel pechadur ger bron Duw, yr oedd yn lled bell ar ôl mewn gwybodaeth o egwyddorion crefydd, er iddo ddyfod o Gymru fawr ei breintiau. Hefyd, er iddo fod yn gwasanaethu am flynyddau gyda Dewi Wyn, fe'i gadawodd yn bur onest - ni ddygodd ddim o'r awen farddonol gydag ef yn ei ymadawiad. Ond bu mewn cryn dywydd pan y daeth ato ei hun i ystyried ei sefyllfa fel troseddwr yn erbyn Duw; dechreuodd weddio mewn dirgel fanau, a gallasai yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel ddyweyd am dano, "Wele, y mae efe yn gweddio." A pharhaodd i weddio am ei oes. Nid oedd ei iaith yn un goeth iawn wrth weddio, nac mewn ymddyddanion eraill, eto yr oedd yn weddiwr gafaelgar iawn. Er ei fod dipyn ar ôl mewn gwybodaeth Ysgrythyrol pan y daeth at grefydd, eto fe gynyddodd yn rhyfedd, ag ystyried pob peth; ond ni chyrhaeddodd ryw lawer o enwogrwydd yn y cyfeiriad yma.
Er fod yn y brawd hwn amryw o ddiffygion, eto yr oedd ynddo bethau yn werth i ni i'w hefelychu. Gallem ddyweyd am dano fel y dywedodd swyddog enwog yn myddin Lloegr, am Loegr, "With all thy faults, I love thee still." Yr oedd yn ddyn didderbyn wyneb. Byddai y gair garwaf yn flaenaf ganddo yn gyffredin; ond ni pharai hyny fawr o gyffro ar neb oedd yn ei ddeall. Siâradai weithiau yn lled hyf a garw wrth fechgyn y pentref, ond yr oeddynt hwythau yn ei ddeall yn dda. Gwnaent gastiau bychain a diniwed (fel y gelwid hwynt) ag yntau, nid o elyniaeth tuag ato, ond i gael rhyw fath o ddifyrwch, a byddai yn dda ganddo yntau gael y cyfle i dalu y pwyth iddynt hwythau. Pa beth bynag a ddywedir am ryw ddull fel hwn, yr oedd yn dda gan y bechgyn am dano.
Er ei fod yn ddidderbyn wyneb, ac yn fras yn ei iaith, nid oedd nemawr yn y fan hono yn fwy llwyddianus nag ef i gael cymorth gan rai dibroffes at amgylchiadau allanol yr achos.
Fel blaenor, yr oedd yn deall ei hyd, ei led, a'i bwysau. Nid oedd yn chwenych y blaen ar ei gyd swyddogion, ond fe gydweithiai a hwynt, eto symbylai hwynt weithiau yn y blaen gyda phethau amgylchiadol yr achos. Ni welais yr un dyn yn mhlith y M. C. yn Swydd Oneida er ys un a deugain o flynyddoedd mor anhawdd ganddo ymgymeryd a'r swydd o ddiacon a'r brawd hwn. Yr oedd yn cael ei lethu gan ei deimladau o'i anwybodaeth ac o'i anfedrusrwydd i gyflawni y swydd. Rhaid i ni gyfaddef fod ynddo lawer o anghymwysderau i'r swydd, ond yr oedd ynddo lawer o gymwysderau oedd yn gorbwyso yr anghymwysderau, a thrwy hyny gwnaeth flaenor da a defnyddiol.
Yr oedd yn un ymdrechgar a ffyddlon. Yr oedd yn ymdrechgar gyda'r byd hwn, a thrwy ei ymdrech, ei lafur a'i gynildeb, casglodd gyfoeth yn lled dda, a gadawodd werth amryw filoedd o ddoleri ar ei ôl i'w rhanu rhwng ei briod, ei blant a'i wyrion. Rhoddodd ffarmio i fyny er's rhai blynyddoedd. Nid oedd ganddo fawr i'w wneyd ond gofalu am y cyfoeth a enillodd, ac am achosion crefyddol. Bu yn ffyddlon, can belled ag yr oedd ei iechyd yn caniatau, hyd derfyn ei oes. Bu yn ffyddlon i fyned i foddion gras tra y gallodd, a bu yn ofalus, can belled ag y perthynai hyny iddo ef, am dŷ yr Arglwydd, i'w gadw yn gysurus i addoli ynddo.
Ni oddefai agenau yn y ty (2 Bren. 2: 6, 7), ac ni oddefai iddo fod heb wres priodol i addoli ynddo yn y gauaf oer. Ond nid oedd ei ffyddlondeb yn terfynu yn y fan hon, eithr yr oedd yn un o'r rhai blaenaf i gyfranu i gynal gweinidogaeth yr efengyl yn y tŷ. Nid oedd yn foddlon ar gael tŷ cysurus, heb gael bwyd ynddo. Mewn gair, yr oedd yn un oedd yn meddwl am ei enw ef, sef achos yr Arglwydd (Mal. 3 : 11). Defnyddiodd y dalent, neu y talentau a dderbyniodd; ac yr ydym yn hyderus iddo ar ddydd ei farwolaeth, gael mynediad helaeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd.
Cafodd ei gorph gladdedigaeth anrhydeddus, yr hwn a huna
"Dros enyd yn y grafel,
Nes datod trefn y rhod;
Ac yna mewn hedd,
Y cyfyd o'i fedd,
Ar ddysglaer wedd ei Briod."
T. T. EVANS. Holland Patent, New York.
Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1881.
MR. OWEN O. OWENS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
I Owen O. Owens of the village of Remsen, Oneida County, New York. Mindful of the uncertainties of human life do make publish and declare this my last Will and Testament in manner following :First : After the payment of my just debts and funeral expenses, I give, devise and bequeath to my wife Ellen the sum of Fifteen hundred dollars.
Second : Item - I give and devise unto my said wife all that my said messuage or tenement with the appurtenances situate and beinf in the village of Remsen and now occupied by me with the land and herediment thereunto belonging and the rents, issues and profits thereof for and during the term of her natural life, my said wife to keep the same in repair - and it is expressly understood that the above gifts is made in lieu of her right of dower.
Third : All the rest residue and remainder of all my estate both real and personal I give devise and bequeath to my daughters Mary Griffith, Ellen James and Jane Prichard to be equally divided between them and their heirs share and share alike the child or children of a deceased child taking the share which his her or their parent would have taken if living; and I will that my Executors shall give to my daughter Jane the first privilage to buy the farm that she now occupies, situate in town of Steuben.
Fourth : I hereby nominate and appoint my sons in law William G. Griffith, William James and Robert L. Prichard, the Executors of this my last Will and Testament and hereby authorize and empower them the said William G. Griffith, William James and Robert L. Prichard to Compound Compromise and settle any claim or demand which may be against or in favor of my said estate.
I will and ordain that the Executors of this my last Will and Testament for and towards the performance of siad testament for and towards the performance of said testament shall with all convenient speed after my decease bargain sell and alive in fee simple my lands for the doing Executing and perfect finishing whereof I do these presents give to my said Executors full power and authority to grant alive bargain sell convey and assure all the same lands to any person or persons and their heirs forever in fee by all and every such lawful ways and means in the law as to my said Executors or to their Counsel carried in the law shall deem fit or necessary. In witness whereof I have hereunto set my hand and seal this 6th day of Secember 1878.
Signed published and declared by the said testator to be his last Will and Testament in the presence of us who have signed our names at his request as witnesses in his presence and in presence of each other.
Robert W. Roberts residing in Remsen Oneida County.
Richard Richards residing in Remsen Oneida County.