MRS. CATHERINE ROBERTS. PETERSON, CLAY COUNTY, IOWA.

Mawrth 13eg, 1881, o'r asthma a'r dropsy ar y galon, Catherine, anwyl briod Mr. Elias Roberts, Peterson, Clay Co Iowa, yn 40 mlwydd oed, gan adael dau o blant bychain mewn galar dwys ar ôl prlod hoff a mam dyner.

Genedigol oedd o Beddgelert, a daeth y teulu i Louisa Co., Iowa, tua 14eg mlynedd yn ôl.

Claddwyd hi gan gynulleldfa barchus yn mynwent capel Seion ar yr 16eg, y Parch. George Knox, gweinidog y Presbyteriaid o Cherokee, ac Edward Jones, gynt o Llandudno, yn gweinyddu.

Y Drych ~ Ebrill 7fed 1881.