MRS. CATHARINE JONES. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bu farw Mrs. Catharine Jones, gwraig Mr. Rowland A. Jones, Smith Hill, plwyf Deerfield, Caerefrog Newydd, Ebrill 9fed, 1846, yn 67 mlwydd oed.Cafodd ei dwyn i fynu mewn lle a elwir Rhydydefaid, plwyf Llanecil, yn agos i'r Bala, Gogledd Cymru, o ba le yr ymfudodd hi a'i gwr a chwech o blant i'r wlad hon, tua 29 o flynyddau yn ol.
Bu yn milwrio dan faner y groes oddiamgylch 40 mlynedd; nid aml y bu neb yn fwy ffyddlon na'r chwaer hon gyd ag achos ei Harglwydd, tra parhaodd ei hiechyd.
Am y tair blynedd diweddaf o'i hoes yr oedd yn wael o ran ei hiechyd, ac yn analluog i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i weled ei chyfeillion a mwynhau breintiau y ty ; ond pan ymwelai rhai o'i chyfeillion a hi, yr oedd yn siriol a llawen i'w gweled, a chrefydd oedd yr ymddyddan penaf a gaed ganddi.
Nid aml y cwrddais a neb mor barod i siarad am grefydd a chanmol daioni ei Harglwydd tuag ati a'r chwaer yma, yn ei hiechyd a'i chystudd. Dyoddefai ei chystudd heb rwgnach; yr oedd wedi dysgu dyoddef heb rwgnach, a dysgu canmol wrth ddyoddef. Aml y dywedai fod rhyw beth heb ei orphen arni, onide y cawsai fyned at Iesu ei Phriod. Anaml y cwrddid a'i chyffelyb mewn sirioldeb, cymwynasgarwch, haelioni, a chydymdeimlad â phawb a fyddai mewn cyfyngder ac angen- byddai yn barod i gynorthwyo hyd eithaf ei gallu.
Dygodd ei theulu i fynu yn rheolaidd, a chafodd eu gweled hwy fwyaf gyd a chrefydd. Yr ydym yn colli y rhai mwyaf profiadol o'r eglwys. Chwiorydd ieuainc, dilynwch gamrau yr hen chwiorydd mewn profiad a phob rhinwedd grefyddol; ffydd y rhai dilynwch; gweddiwn am i'r bylchau sydd yn cael eu gwneud gan angeu gael eu llanw â rhai ffyddlon, llafurus, a duwiol i fyned a'r achos yn mlaen.
Gwanhaodd ein chwaer yn fawr yn yr wythnosau diweddaf o'i hoes er pob ymdrech meddygol, ac ehedodd yr enaid adref yn orfoleddus mewn cerbyd angylaidd i ddinas ei Thad nefol.
Ar ddydd ei chladdedigaeth ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i gyflawni y gymwynas olaf i'w rhan farwol, a chladdwyd hi y» mynwent Salem, Marcy; pregethwyd ar yr achlysur yn Saeonaeg gan yr ysgrifenydd; a chan y brawd W. D. Williams yn Gymraeg, oddiwrth destyn a neillduwyd gan ein chwaer, sef Salm 34: 18, 19.
Samuel A. Williams, Salem.