MR. J. R. JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd Mr. J. R. Jones yn y lle a enwir Tyddyn-y-Felin-Pencoed, yn mhlwyf Llanysdymdwy, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yn y flwyddyn 1801 daeth i America. Arosodd yn Philadelphia hyd y flwyddyn 1804, pan yr ymunodd mewn priodas â Mary Williams, genedigol o Lanywrin, swydd Drefaldwyn, G. C. Daethant yr un flwyddyn i ymgartrefu i Remsen, swydd Oneida, Talaeth Caerefrog Newydd. Bu ganddynt 6 o blant y rhai ydynt oll yn fyw. Yn y flwyddyn 1823, bu farw Mary, ei wraig. Yna yr oedd yn weddw, dan y cwmwl tywyll, a'i blant bychain yn amddifaid o'i mam yn cyd alaru. Ond darfu Duw yn ôl ei addewid ofalu am danynt yn dirion yn ei ragluniaeth.

Ar ôl bod 8 mlynedd yn weddw, ail ymunodd mewn priodas gyda Mrs. Margaret Griffiths, gwraig weddw, genedigol o Swydd Gaernarfon, G. C; o hon mae iddo 3 o blant ieuainc wedi eu gadael gyda'i mam i ofal rhagluniaeth fawr y Nef.

Wedi treulio y rhan oreu o'i oes yn ddi-grefydd, yn y flwyddyn 1823 cafodd y fraint, yn mhrydnawn-ddydd ei fywyd, o ymuno â chrefydd gyd a'r Anymddibynwyr yu Utica, a chafodd y fraint o ymddwyn yn addas i'w broffes am ar a wyddom hyd ei fedd. Nid oedd wedi bod heb lawer o gymelliadau ar ei feddwl i ymuno ag achos yr Arglwydd yn ystod ei oes, a'i dyb oedd na ddylasai ymuno â'r gwaith hyd nes iddo gael yr ymweliad mawr ac anorchfygol oddiwrth Ysbryd Duw. Ond cafodd ei siomi yn hyny; ac ar ôl hir ddysgwyl, penderfynodd i dreio rhoddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl, fel yr oedd, heb lawer o'r phrofiad tanllyd, ag y mae rhai yn ei gael. Nid oedd yn meddu ar lawer o ddawn i ddangos ei feddwl; eto yr oedd yn amlwg ei fod yn meddu ar brofiad crefyddol. Am grefydd a byd tragywyddol yr oedd yn hoffì ymddiddan, a mynych y cwynai o herwydd ei anwybodaeth a byrdra ei ddawn gyda materion crefyddol, a'i fod wedi camddefnyddio cymaint o'i amser boreuol. Gellir dyweyd am wrthrych y Cofiant ei fod yn un ag oedd yn rhagori ar gyffredinolrwydd yr oes hon mewn cario meddwl tyner ac ymddyddanion parchus am grefyddwyr o wahanol enwadau.

Yr oedd yn awr er's rhai blynyddoedd yn aelod gyd a'r Trefnyddion Calfinaidd am ei bod yn fwy cyfleus iddo. Yn ei gystudd olaf (pa un y hu dano am rai misoedd) hiraethai yn fawr am fwynhau moddion gras. Ac er ei fod wedi byw ar hyd ei oes grefyddol ar dir lled ofnus am wirionedd ei grefydd, ymddangosai yn ei gystudd fod cymylau amheuaeth yn gwasgaru, a goleuni sicrwydd yn llewyrchu i'w enaid. Adroddai lawero benillion ag oeddynt yn profi hyny; a phan oedd yr ysbryd ar gymeryd ei ehedfan o'r corff, dywedai, "Myfi awn fod fy Mhrynwr yu fyw. ac y saif yn y diwedd ar y ddaear." Rai wythnosau cyn ei farwolaeth, ymadawodd o Steuben a daeth i Utica; ac yn nhŷ ei fab Isaac efe a fu farw, mewn llawn hyder ffydd, Mawrth 18ed, 1846, yn y 74 mlwydd o'i oedran.

Yr 20fed ymgasglodd ynghyd Gymry a Saeson i anfon ei ran farwol i'r ty rhagderfynedig yn mhlwyf Marcy, y man lle y gorwedd gweddillion marwol ei wraig Mary, a llawer eraill o'n cyd genedl. Cyn cychwyn o'r tŷ gweddiodd y Parch. Thomas Williams yn Gymraeg; ac anerchwyd y gynulleidfa trwy araeth gymwysiadol yn Saesneg, gan y Parch. Mr. Bristol o Utica.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1846