GRIFFITH W. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
GRIFFITH W. ROBERTS was born at Tanfonwent, Llanengan, Carnarvonshire, North Wales, January 16, 1802.When a young man he emigrated to America and located at Mobile, Alabama., where, in partnership with a young friend he engaged in business.
But the death of his partner occurring within a few years, he came north and located at Remsen where he engaged in mercantile trade, and became active and prominent in the business, social and religious life of the community.
He married here Sarah, daughter of Rev. William G. Pierce, of Steuben. Mr. Roberts died in Remsen March 6, 1881.
History of Remsen.
GRIFFITH W. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Bu farw y brawd hoff, a'r Cristion gloew hwn, Mawrth 7fed, 1881, ar ôl ond rhyw ddau ddiwrnod o waeledd, yn ei 79 mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef y 9fed, yn mynwent Capel Ucha', Steuben, pryd y gweinyddwyd gan y brodyr Smith (M. E.) yn y tŷ, yn Saesonaeg; S. Jones ac O. Parry (B.); Hnghes, Steuben, a Davies, Waterville, yr hwn a bregethodd yn Saesonaeg; a'r ysgrifenydd, yr hwn hefyd a draddododd ei bregeth angladdol yr ail Sabboth ar ôl ei angladd.Ganwyd gwrthrych ein Cofiant yn Tan-y-fonwent, Llanengan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Ionawr 16eg, 1803. Enw ei dad oedd Robert Williams, ac yn ôl arfer yr oes hono, yr oedd efe yn myned yn ôl y cyfenw Roberts. Pan yn uno chwe' mlwydd (16) oed, teimlodd awydd cryf i ymfudo i'r wlad hon, ac mewn canlyniad gwelwn ef (ac eraill o'i gyfoed) yn gadael ei gartref, a ffarwelio â'i rieni am byth yn y byd hwn, a gwynebu i'r wlad hon, heb unwaith ddychwelyd i'r Hen Wlad. Trafaeliodd lawer y blynyddoedd cyntaf wedi dyfod yma. Bu am amser yn New Orleans, a manau eraill, ond o'r diwedd, wedi ei grwydriadau, daeth i Remsen, a thynodd Remsen gymaint o'i fryd fel na thrafaeliodd ond ychydig iawn byth mwy, ond mae yn debyg y gellir olrhain y sefydlogrwydd hwn i'r ffaith iddo ymbriodi â Miss Sarah Pierce, merch y Parch. W. G. Pierce, Steuben, ac y mae hi wedi ei gadael yn unig iawn a gweddw. Buont yn briod am dros pump deg pump mlynedd (55), ac nid oes ryfedd fod ein chwaer yn teimlo cymaint ar ei ôl.
Cyd-deithiasant am gyhyd o amser gyda'u gilydd trwy anialwch y byd, fel y mae yn anhawdd i'r un a adawyd beidio teimlo ac wylo - nid dagrau grwgnachrwydd, ond dagrau hiraeth am ei gwmni.
Ymgymerodd â masnach yn fuan wedi ymbriodi, ac yr oedd yn ei hoffi yn fawr, ac mor fawr fel y dilynodd hi hyd derfyn eithaf ei oes; a gellir dweyd am dano ei fod fel masnachwr yn ddidwyll a gonest. Beth bynag oedd, ac yw nodweddau masnachwyr, a pha mor hawdd gan lawer o honynt dwyllo, ac ymddwyn yn anonest, nid oedd efe felly. Er ei fod yn fasnachwr hynaf ein pentref, cadwodd y goron hon ar ei ben; a pha beth bynag oedd yn ddiffygiol ynddo fel masnachwr, yr oedd yn meddu y nodwedd o fod yn onest - rhinwedd ag oedd yn cuddio yn llwyr beth bynag a allasai fod yn ddiffygiol ynddo. Da iawn pe byddai holl fasnachwyr ein gwlad yn ei efelychu yn hyn.
Bu yn aelod eglwysig dros ddeugain mlynedd. Wedi i'r Parch. M. Roberts ffurfìo eglwys Annibynol yn Remsen, yn ffurfiad yr hon yr oedd Mrs. Roberts yn un, ymunodd yntau yn fuan ar ôl hyny, a bu a'i ysgwydd yn dyn dan yr arch o hyny hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd achos Duw yn agos iawn at ei galon, a phryderai lawer yn ei gylch. Os byddai yn edrych dipyn yn dywyll ar yr achos, O mor brudd y teimlai! Ond os o'r ochr arall, o mor siriol yr edrychai! Ei fwyd a'i ddiod oedd gwasanaethu Duw; o herwydd hyny, nid pob awel fach a'i taflai ef yn ôl, nid pob ystorom, pa mor ofnadwy bynag y byddai, a'i dyrysai ef. Yr oedd yn sefydlog fel y graig, ac yn anysgogadwy fel y mynyddoedd; ac o herwydd hyny nis gallasai beidio a bod yn ffyddlon; ac felly, yr oedd yn ddiarebol ffyddlon i gynulliadau a chynaliaeth yr eglwys.
Yr oedd ei weled yn niwedd ei oes, yn enwedig wrth edrych ar ei fusgrellni, yn cyfeirio i dŷ Dduw, yn tynu allan addefiad gan bawb, fel hyn, "Wel, y mae yr hen frawd G. W. yn ffyddlon! O mor llawen y teimlai wedi cyrhaedd y capel, yr hyn iddo ef oedd fel cyrhaedd Canaan i blant Israel gynt, ar ôl eu teithiau blin. Yr oedd yn gwneud achos Duw fel megys yn achos iddo ei hun; ac yn enwedig felly y rhan bwysig hono o'r addoliad dwyfol, sef canu mawl.
Yr oedd yn flaenor y canu yn y lle er's llawer o flynyddoedd, ac yr oedd yn mawrhau ei swydd. Yr oedd yn ddiacon hefyd er's llawer o flynyddoedd, eto nid ymgymerai â gwaith y swydd hono fel ei gyd-swyddogion - gadawai waith y swydd hono iddynt hwy, gan gysegru ei ddoniau, ei dalentau, a'i amser i gynal a pherffeithio y canu cynulleidfaol. Dyma waith a fawr fwynhai, a rhan yr oedd yn hollol argyhoeddedig ei bod yn rhan arbenig iddo ef; a mawr oedd ei ffyddlondeb, ei ddyfalwch, ei ymroad, a'i amynedd i ddwyn hyn oddiamgylch, ac i berffeithio y rhan hon o'r gwasanaeth dwyfol. Yr oedd yn parhau yn hoenusrwydd ieuenctyd yn hyn hyd y diwedd. Yr oedd tôn newydd dda fel anadl bywyd iddo.
Trio pum' (35) mlynedd yn ôl, gwelid tri wyr cedyrn yn ymgyfarfod mewn ystafell yn Remsen, wythnos ar ôl wythnos, a'r tri a'u calonau yn ngwaith Duw, ac yn ymgais at y ffordd oreu i'w ddwyn yn mlaen. Y tri hyn oeddynt y Parchn. R. Everett, (wedi hyny Dr. Everett,) Morris Roberts, a gwrthrych ein Cofiant. Y gwaith oedd ganddynt mewu llaw ydoedd casglu Salmau a Hymnau at wasanaeth yr eglwysi Cynulleidfaol Cymreig yn America, a llwyddasant yn eu gwaith; a galwasant y casgliad yn "Ganiadau y Cysegr," yr hwn sydd un o'r casgliadau goreu. Bu yn cael ei ddefnyddyddio yn gyffredinol trwy ein heglwysi am flynyddau lawer, ac y mae yn cael ei ddefnyddio eto gan lawer. Mae enwau y tri wrth yr Anerchiad Rhagymadroddol i'r llyfr, ac fel y maent i lawr yno, felly y cymerwyd hwy ymaith. Robert Everett ydyw yr enw cyntaf, ac efe a gymerwyd gyntaf oddiwrthym; Morris Roberts yw yr ail, ac efe a gymerwyd nesaf; a'r enw diweddaf wrth yr Anerchiad ydyw G. W. Roberts, ac efe a gymerwyd ddiweddaf oddiwrthym. Heddwch i lwch y tri wyr da hyn! Mae eu henwau yn pêr-arogli.
Gwnaeth gwrthrych ein Cofiant ei ran. Bu farw fel y dymunodd, yn yr harness, ac o herwydd hyny teimlir colled fawr ar ei ôl. Mae ei le i'w weled yn wag!
Dangoswyd parch neillduol iddo ar ddydd ei angladd. Canwyd yr holl ystordai yn y pentref dros adeg y gwasanaeth, a thra yr elai yr orymdaith angladdol trwy yr heolydd, yr hyn sydd yn beth anghyffredin iawn yma, Teimlai y masnachwyr fod gŵr anrbydeddus wedi cwympo o'u mysg, a'r hynaf o honynt i gyd - eu tad mewn masnachaeth yn y pentref.
Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar y Beibl, ac yn gofus ynddo. Ni byddai raid ond gofyn iddo ef pa le y byddai adnod, na byddid yn sicrach o'i chael na phe troisid i'r Geirlyfr; ac yn wir, byddai rhai yn rhoddi y fath Compliment iddo, fel y galwent ef yn "Cruden's Concordance;" ac o herwydd hyny hoffid ei bresenoldeb yn yr Ysgol Sabbothol er ei henaint, ac at yr hon y meddai yntau serch neillduol; ac yn yr Ysgol y bu yn y cyfarfod diweddaf yn y byd hwn. O mor hyfryd clywed yr Ysgol yn canu mor soniarus yn ei angladd!
Dyma un o'r hen drigolion wedi ein gadael eto, a byddant wedi myned i gyd yn fuan. Duw a ofalo am ei achos, - a bendithied ei weddw alarus ac unig.
R. TROGWY EVANS.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1881.
GRIFFITH W. ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Know all men by these presents that I Griffith W. Roberts of the town of Remsen, in the County of Oneida, and State of New York Merchants, considering the incertainty of this life and being of sound mind and memory, do make, declare and publish this my last Will and Testament.First : I give devise and bequeath to my beloved wife Sarah all of my estate, real and personal or mixed of which I shall die seized and possessed or to which I shall be entitled at the time of decease, to have and to hold the same to her, and her Executors and administrators and assigns forever.
Second : I do nominate and appoint my beloved wife Sarah to be the sole Executrix of this my last Will and Testament.
In testimony whereof I hereunto set my hand and seal, and publish and decree this to be my last Will and Testament contained on one sheet of paper in presence of the witnesses named below this eighth day of July in the year of our Lord one thousand eight hundred and seventy one.
The above instrument consisting of one sheet of paper was at the date thereof declared to us by Griffith W. Roberts ther testator therein mentioned to be his last Will and Testament and he at the same time acknowledged to us, and each of us that he had signed and sealed the same, and we thereupon at his request and in his presence and in the presence of each other signed our names thereto as attesting witnesses.
T. O. Roberts residing at Remsen Oneida County.
Didemus Thomas residing at Remsen Oneida County.