MR. ROBERT W. ROBERTS. COLUMBUS, WISCONSIN.
Yn Columbus, Wisconsin, Mehefin 18fed, 1881, bu farw Mr. Robert W. Roberts, gynt o Bryneryr, Clynog Fawr, yn Arfon.Bu ei dad, y diweddar Thomas Roberts yn gwasanaethu y swydd ddiaconaidd am flynyddoedd lawer yn nghapel y Gyrn Goch, ac fel y cyfryw enillodd iddo ei hun radd dda; ac y mae William Roberts, ei frawd, yn gwasanaethu yr un swydd yn nghapel y M, C., yn pentref Clynog. Deallwyf hefyd fod ei anwyl fam yn fyw, ond yn lletya wrth yr Iorddonen. Cefais adnabyddiaeth â'r teulu caredig hwn, wreiddyn a changen, pan yr aethym i'r Grammar School at y diweddar Barch David Jones (Dewi Arfon). Hon ydoedd yr ysgol a sefydlwyd gan Eben Fardd, dan nawdd cyfarfod misol Arfon, i roddi addysg barotoawl i ymgeiswyr ieuainc am y weinidogaeth.
Bu y Parchn. R. Vaughan Griffith, Columbus, Ohio; W. Machno Jones, Minnesota, a minau, yn derbyn addysg am tua thair blynedd yn yr ysgol hon. Mor ddymunol yw yr adgofion am drigolion caredig Clynog.
Ymfudodd ein cyfaill i'r wlad hon yn y flwyddyn 1866, a mwynhaodd iechyd lled dda am flynyddoedd wedi iddo ddyfod. Ond tua blwyddyn yn ôl, dechreuodd deimlo poen yn ei gylla; a chyn hir, deallwyd ei fod yn cael ei flino gan y cancer, yr hwn a brofodd yn farwolaeth iddo. Yr ydwyf yn dweyd wrth ei deulu ei fod yn cael ei flino yr un fath yn hollol a Dewi Arfon, a bu farw yn gyffelyb iddo. Cafodd bob gofal o dan Dr. John Jones, Fall River. Bu yn ymgynghori ag amryw feddygon galluog eraill, ond nis gallasant ei wellhau. Aeth i weled Dr. Williams i Cambria, Wisconsin, ac wrth ddychwelyd yn ôl, aflonyddwyd ar ei ddolur, torodd y cancer oddi mewn, fel nad allodd gyrhaedd yn mhellach na thy Mr. Samuel W. Jones, o ardal Columbus.
Mab ydyw Mr. S. W. Jones i William Samuel, y gof, o Aberdesach; yno y bu farw, ac oddi yno y claddwyd ef yn meddrod y teulu, yr Hen Bant, yn ôl ei ddymuniad ef ei hun. Gall y teulu deimlo yn dawel ei fod wedi cael pob parch, pob gofal, a phob ymgeledd gan S Jones a'r teulu, yn yn nghyd ag amryw eraill; a chafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Yr oedd yn aelod parchus a defnyddiol yn eglwys y M. C. yn Racine, Wisconsin, ac fel y cyfryw cariai ddylanwad da ar feddyliau y rhai y deuai i gyffyrddiad a hwy. Tuedd naturiol ei feddwl ydoedd prudder, fel yr oedd ei brofiad crefyddol yn gwisgo y wedd amheuol ac ansicr; felly y cefais ef i'w ddiwedd.
Pan aethym i'w weled un boreu, pan yr oedd y gymanfa yn Columbus, dywedai ei bod yn fwy goleu ar ei feddwJ. "O !" meddai, "cefais noswaith dywyll neithiwr; fy mhechodau fel mynyddoedd! Ond tua thoriad y wawr, daeth yr hen benill hwnw i'm meddwl."
"Pechod yma, cariad acw,
Bwyswyd yn y glorian fawr;
Ac er trymed ydoedd pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr;
Gair "Gorphenwyd"
Wnaeth i'r glorian bwysig droi"
Y gair hwnw hefyd, "Hwn yw fy ngwaed o'r Testament Newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau." " Yr wyf yn gobeithio, frawd, fod y glorian wedi troi o fy mhlaid am byth." Gofynwn iddo, A oes genych rywbeth a garasech ddweyd wrth eich teulu yn Nghymru? "Dim, ond y caraswn yn fawr eu gweled; a dywedwch fy mod yn cofio at fy mam; ac yn diolch i William fy mrawd am yr arwydd a ddangosodd o'i garedigrwydd."
Gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth gan y Parchn John J. Roberts, Richard Griffith, Columbus, a'r ysgrifenydd.
JOSEPH ROBERTS.