MR. LEWIS ROGERS. 533 GATES AVENUE, BROOKLYN, NEW YORK.
Mawrth 22ain, 1881, yn nhŷ ei fab, Mr. Robert Rogers, 533 Gates Avenue, Brooklyn, New York, Lewis Rogers, yn ei 89ain mlwydd oed.Ganwyd Mr. Rogers yn Bryn Adda, ger Dolgellau, Meirion, a daeth i'r wlad hon 18 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys Gymreig 11th Street, New, York, ac yn ddyn o gymeriad uchel a pharchus. Yr oedd y rhai a'i hadwaenant yn edrych arno fel engraifft o hen Gymro didwyll a dirodres. Er mor oedranus ydoedd, parhaodd hyd ddydd el farwolaeth o'r bron i gael iechyd da, mewn cymhariaeth, ac yr oedd mor gryf a bywiog fel yr oedd yn anhawdd credu ei fod mor hen.
Ar y 24ain ymgynullodd nifer o gyfeillion y teulu i'r angladd, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. G. H. Humphrey, Davies a Richards. Claddwyd ef yn Cypress Hills, Cemetery.