MRS. JANE THOMAS, PROSPECT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 25ain, 1881, yn agos i Prospect, swydd Oneida, New York, yn 53 mlwydd, 3 mis a 27 diwrnod oed, o'r darfodedigaeth, Jane, priod i Mr. David P. Thomas; ail wraig iddo oedd y chwaer hon, ac ni buont yn briod ond tua pedair bìynedd. Un wedi ei mabwysiadu oedd y chwaer, gan yr hen bobl Hugh a Cathrine Richards, y rhai a ymfudasant i'r wlad hon o (Ynys Enlli, sir Gaernarfon, pan oedd hi yn eneth fechan. Bu yn fendith i'r hen bobl ei chael, canys bu yn ofalus am danynt hyd eu bedd. Adnabyddid y chwaer cyn iddi briodi wrth yr enw Jane Richards.Ymunodd gyda chrefydd gyda y Bedyddwyr yn nghapel Seion, Remsen pan yn lled ieuanc; ond yn mhen amser ar ôl hyny, daeth ychydig o frodyr a chwiorydd i benderfyniad o ymgorffori yn eglwys i Iesu Grist yn Bardwell, sef 13 o rifedi, yr oedd ein chwaer yn un o'r nifer, ac nid oes eto ond tri o'r tri ar ddeg cyntaf oedd yn dechreu yr eglwys ar dir y rhai byw. Yr oedd ein chwaer yn perchen ar luaws o rinweddau teilwng o efelychiad; yr oedd yn darllen llawer ar ei Beibl a llyfrau da eraill, ac yr oedd yn hynod o gyfarwydd yn y Beibl - yr oedd rhanau helaeth o'r hen lyfr anwyl gan y chwaer yn drysor gwerthfawr yn ei chof, yr hyn a fu iddi yn gysur cryf am amser maith, pan, gan waeledd, yn analluog i fyned i foddion gras.
Nid oedd erioed wedi bod yn gref o ran iechyd - dynes fechan iawn o ran corff, ond yn hynod gref o'r hyn a elwir synwyr cyffredin. Yr oedd yn hoff o siarad am bethau crefydd, ac yn hynod o effro yn moddion gras. Yr oedd hi a'i phriod wedi symud eu haelodaeth yn ôl i eglwys Remsen, am eu bod wedi symud o gyrhaedd eglwys Bardwell. Ar gais y Parch. John Seth Jones yr wyf fi yn ysgrifenu hyn o Gofiant, am fy mod yn fwy cyfarwydd â'r chwaer.
Aeth trwy y glyn yn hynod o dawel - bu farw fel diffodd canwyll. "Ni frysia y neb a gredo." Duw yn ei ddaioni a ofalo am ein brawd sydd wedi cael ei adael mor unig. Y mae wedi claddu yr oll o'i deulu, - pedwar o blant a dwy o wragedd, a'r oll o'r un afiechyd, sef y darfodedigaeth, ac yntau ei hun yn lled wael ei iechyd. Y dydd Llun canlynol, daeth tyrfa luosog a pharchus i dalu y gymwynas olaf i'w rhan farwol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. S. Jones a'r ysgrifenydd, yn nghapel Fairchild; ac yn y fonwent hono y rhoddwyd gweddillion marwol ein chwaer i orwedd. "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."
OWEN F. PARRY.