MR. BENJAMIN R. WILLIAMS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Mai 2ail, 1881, yn nhŷ ei ferch hynaf (Lizzie), Bangor, Northampton County, Pennsylvaniaa, yn 58 mlwydd oed, y cyfaill hoffus Benjamin B. Williams, a chladdwyd ei weddillion Mai 5ed gan lu mawr o gyfeillion.Gadawodd chwech o blant yn alarus iawn ar ei ôl, o ba rai y mae pedwar yn New York - sef Annie, William, Kate a Jennie, mewn sefyllfaoedd da. Y mae Lizzie wedi priodi er's rhai blynyddoedd, ac yn byw yn Bangor, Pennsylvania, lle hefyd y mae Johnny, y bachgen ieuengaf oddeutu 14 oed, gyda ei chwaer. Duw a'u hamddiffyno. Gŵr ydoedd o Tyn-y-maes, Bethesda, Gogledd Cymru, ond yn y wlad hon ers 33 o flynyddoedd, 24 o'r rhai a dreuliodd yn Cambria ac Oshkosh, Wisconsin.
Yr oedd yr hen gyfaill yn un o ddarllenwyr cyntaf y DRYCH, ac yn ei godi er ei ddechreuad.