MR. MOSES JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Un o Flaenoriaid Eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn Remsen, C. N.

Mab ydoedd Moses Jones i Robert ac Anne Jones, Melin Pencoed, plwyf Llanarmon, sîr Gaernarfon, Gogleddbarth Cymru.

Ymfudodd i'r wìad hon gyda'i rieni yn y fiwyddyn 1801. Tiriodd yn Wilmington, Pa., ac yn yr un flwyddyn ymfudasant i swydd Oneida, C. N., (a hwy oeddynt y Cymry cyntaf a ymsefydlasant yu mhlwyf Remsen;) ac yma y treuliodd Mr. M. Jones weddill ei ddyddiau ar y ddaear.

Pan oedd oddeutu wyth mlwydd ar hugain oed, ymunodd mewn priodas â Miss Dinah Davies, merch Mr. Nathaniel Davies, Floyd.

Yr oedd ei rieni yn grefyddol; ac felly cafodd y fraint o'i addysgu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, ac yn mhen y ffordd, â'r hon nid ymadawodd pan heneiddiodd. Gwerthfawr iawn yw cael ein gosod yn moreu ein dyddiau ar lwybr fyddo yn troi allan yn dda yn y diwedd. Bu cynghorion ei rieni yn fendithiol iddo, pan nad oedd cyfiawnder o foddion cyhoeddus yn yr ardaloedd, mewn cyferbyniad i'r hyn sydd y dyddiau a'r blynyddoedd hyn.

Felly tystiolaethai í'r ymrysoniadau ar ei feddwl yn nghylch ei en aid er yn ieuangc, ond gwrthwynebodd y cwbl am flynyddau iawer, eto yr ydoedd o ran ei ymarweddiad yn hardd; a chafodd ei gadw rhag cyflawni pechodau mawrion a gwarthus fel llawer. Ond pan y bu farw ei fam, cynnyddodd yr argoeddiadau ar ei feddwl yn ddwys iawn; a byddai i'w glywed yn gweddio ac yn moliannu yn y coedydd nos a dydd a pharhäodd yn y cyflwr hwn am lawer o amser. Yr oedd yn gweled ei hun yn ormod pechadur i ymuno á phobl yr Arglwydd; ac wedi bod felly am lawer o amser, megys yn yr esgoreddfa, rhoddodd ei hunan yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i'w bobl, yn ol ei ewyllys ef.

Pan tuag wyth-ar-hugain oed ymunodd a'r Eglwys yn Nghapel Cerrig Steuben, pan oedd yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd yn ymgynnull gyda'u gilydd, mai y byddent yn arfer y dyddiau hyny.

Yr oedd ef yn un o'r rhai a sefydiasant achos y Methodistiaid Calfinaidd gyntaf yn yr ardaloedd hyn, a pharhâodd yn ffyddlon a diflino er pob gwrthwynebiadau. Byddai yr ychydig gyfeillion yn arfer ymgynnull yn ei dŷ ef am dymhor, yn achlysurol, wedi eu hymadawiad oddiwrth yr Annibynwyr, pryd nad oedd yr un capel gan y Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardaloedd hyn; a bu yn ffyddlon gyda'i frodyr yn adeiladu y capel a eiwir Pen-y-caerau; ac fel yr oedd yr achos yn llwyddo, ac anghen am ychwaneg o dai addoliad, rhoddodd erw o'i dir yn rhodd, er pa un y mae Capel Cerrig Remsen yn sefyll yn awr.

Bu Moses Jones yn proffesu am 30 mlynedd, o ba rai gwasanaethodd dair-ar-ddeg yn y swydd ddiaconaidd. Yr ydoedd yn ddyn arafaidd a phwyllog o ran ei gyfansoddiad, yn meddu ar ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr; ac yr oedd yn Gristion manwl gyda holl ddyledswyddau crefydd, a gair da iddo gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hunan. Fel swyddog yr oedd yn fanwl at y ddysgyblaeth lem yn erbyn llygredigaethau yr oes, tadol yn ei rybuddion, caruaidd yn ei gynghorion, a ffyddlawn yn ei ofalon. Argyhoeddai yn llym; dywedai y gwir yn ddidderbyn wyneb; gofalai am yr holl braidd, gan fwrw golwg, a hyny yn fanwl ac aml, y dywedai, mae hwn a hwn, neu hon a hon, heb ddweyd gair o brofiad er's llawer o amser.

Gyda rhanau allanol y gwaith hefyd yr oedd yn neillduol o ffyddlon. Nid siarad am wneyd a wnai yn unig, ond gwneyd hefyd, a hyny yn ddirwgnach ac yn ddirodres; nid fel llawer o grefyddwyr ein hoes, a hyny fel pe byddai yn ysgrifeuedig ar bob peth a wnant, Deuwch, gwelwch fi.

Er na chawsai lawer o ddawn hyawdlaidd, eto meddiannai lawer o ffyddlondeb gyda'r gwaith. Nid crefydd yn y capel yn unig oedd ganddo ef, i'w gadael yno ar ei ol hyd oni ddeuai yno wedi'n — nage, ond arferai dduwioldeb gartref ac oddicartref hefyd. Yr oedd fel canwyll wedi ei goleuo, yn rhoddi goleuni i bawb yn y tŷ, ac yn halen, yn ei flas pa le bynag y byddai. Ond rhag myned i ormod meithder yn y dull yna, er fod llawer i'w ddweyd yn ychwaneg nag a ddywedwyd, gellir, yn briodol iawn, dweyd y geiriau hyny, 'A Moses a fu ffyddlon yn ei holl dý, megys gwas.'

Gair am dano yn ei gystudd diweddaf.— Mawrth y 14eg, cŵynai ei fod wedi cael annwyd, ond eto elai o amgylch gyda'i alwedigaeth; ond y Sabboth teimlai yn waeth. Casglai yr hyn a eilw y meddygon yn Quinsy, yr hyn a'i gwnelai yn anhawdd iddo allael siarad ond trwy boen fawr. Aeth amryw o'r cyfeillion i ymweled âg ef; ond nid oeddym yn meddwl y terfynai ei glefyd yn farwol y pryd hyn. Ond yn mhen ychydig, wrth weled arwyddion fod colofnau y tŷ yn cael eu dattod, ofnem mai ei golli a wnaem. Dywedai, yu gadarn a goleu, fod pob peth yn dda rhyngddo a'i Farnwr. Bu am rai dyddiau heb allu siarad ond ychydig, o herwydd y chwydd oedd yn ei wddf a'i enau. Un diwrnod, pan aeth y cyfeillion i ymweled âg ef, pryd nad ellai siarad, gwnai arwyddion â'i law, gan ei dyrchafu, a chyfeiriai â'i fŷs i ba le yr ydoedd yn myned; ac yn y man dywedai mewn bloesgedd lawer gwaith, At Iesu! at Iesu! i'w weled fel y mae, a bod yn debyg iddo. O mór llawn o orfoledd ydoedd ei enaid yn yr olwg ar ogoniant y Cyfryngwr, a chadernid y drefn i gadw pechadur.

Gofynodd un iddo a oedd crefydd yn talu ei ffordd yn yr amgylchiad yr oedd ef ynddo y pryd hwnw? 'O ydyw,' ebe yntau, gan goffàu y gair hwnw, 'ffyddlon yw yr Hwn a addawodd, yr Hwn hefyd a'i gwna.'

Gwelsom lawer yn myned i'r glyn, ond ni welsom neb erioed yn myned mór hyderus; ac y mae yn anmhosibl desgrifio ar bapur i feddwl neb ond yrhai oeddynt bresennol. Adroddai lawer o'r tystiolaethau dwyfol, y rhai oeddynt fel creigiau cedyrn, yn ei gynnal yn yr Iorddonen. Y dyddiau diweddaf o'i fywyd, cynghorai ìawer ar ei blant i ymofyn am grefydd yn moreu eu dyddiau, a dywedai y gair hwnw, 'Cofia yn awr dy Grëawdwr, yn nyddiau dy ieuengetyd,'

Un diwrnod, galwai hwynt ato i ffarwelio â hwynt, a dywedai y pwysigrwydd oedd i ymofyn am y nefoedd cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar, ac yn mysg pethaa ereiìl adroddai y pennill canlynol —

Cofia f'enaid, cyn it' dreulio
D'oriau gwerthfawr yn y byd.

O ! beth môr bwysig yw geiriau diweddaf tad wrth ei blant, pan yn mynod i farw! 'Pan orphenodd Jacob orchymyn i'w feibion, efe a dynodd ei draed i'r gwely, ac a fu farw. Felly y gellir dywedyd am wrthddrych y cofiant hwn, wedi iddo orphen gorchymyn i'w blant, efe a fu farw y 25ain o Fawrth, 1846, yn 58 mlwydd a saith mis oed, gan adael gwraig yn weddw, a saith o blant yn amddifaid, i ofal Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon; a mawr ydyw y galar parhaus ar ei ol: a'n gweddi a gaiff fod ar Dduw pob grâs, ar iddo alw y meibion yn lle eu tadau, a'r merched yn lle eu mamau, i fod yn dywysogion ar yr holl dir.

Ar yr 28ain, ymgynnullodd tyrfa luosog o'i gyfeillion a'i gymdogion i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol, ac a'u rhoddasant i orphwys yn mynwent Pen-y-caerau hyd ganiad yr udgorn diweddaf.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1847


MR. MOSES JONES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Moses Jones, mab Robert ac Ann Jones uchod. (1788 - 1846).

Moses oedd wedi aros gartref ar y fferm ar ol Robert ac Ann Jones.

Moses wedi priodi Dinah Davies. (1789 - 1871.)

Mae'r ddau wedi eu claddu ym mynwent Capel Penycaerau, Remsen.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.