MISS. LAURA WILLIAMS. WILLIAMSBURGH, IOWA COUNTY, IOWA.
Medi 26ain, 1881, yn Williamsburgh, Iowa Co, Iowa, Laura Williams, anwyl ferch Samuel Williams a'i briod, yn 21 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Hendre Gyfeilliaid, Llanegryn, Meirion, Gogledd Cymru.
Glaniodd y teulu yn New York Mai 14eg, 1871. Wedi iddynt dreulio rhyw dri mis yn ardal Dodgeville, Wisconsina, daethant i Williamsburgh, Iowa.
Magwyd hi yn dyner ac anwyl. Cafodd gychwyniad da. Rhoddwyd hi ar yr iawn gyfeiriad. Cyfranwyd yr addysg oreu iddi. Cafodd athrofa wych ar aelwyd tŷ ei thad. Cymerwyd y gofal mwyaf i'w maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, wrth gyrn yr allor deuluaidd, ac yn mynwes eglwys Crist. Hyfforddwyd hi yn mhen ei ffordd. Yr oedd amryw bethau yn nghymeriad ein chwaer ieuanc, gwerth eu cofnodi er addysg i'r byw.
1. Ymostyngodd dan iau Crist yn forau. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig pan oedd tua 10 mlwyd oed, yn Llanrhaiadr, yn Mochnant, gan y Parch. Mr. Morris. Cofiodd ei Chreawdwr yn nyddiau ei hieuenctid. Yr oedd er yn blentyn yn grefyddol. "Cysegrodd flaen-ffrwyth ddyddiau ei hoes, i garu'r Hwn fu ar y groes." A'i phrofiad o'r mebyd oedd, "Fod mwy o bleser yn ei waith na dim a fedd y ddaear faith."
2. Arferai ddiwydrwydd i foddion gras. Anfynych iawn y byddai ei lle hi yn wag.
3. Yr oedd yn nodedig yn yr Ysgol Sabbothol. Meddyliai lawer am dani ar hyd yr wythnos, trwy drysori rhanau o air Duw yn ei chof i'w adrodd allan bob Sabboth. Bendithiwyd hi a chof hynod o nerthol. Yr oedd yn ddylynwiw fel athrawes. Yr oedd ei ffordd yn ddengar ac anillgar. Cerid hi yn fawr gan y dosbarth. Yn wir, merch ieuanc anghyffredin oedd Laura Williams. Colled fawr i'r Ysgol Sul oedd ei cholli hi. Bu yn hynod ymdrecbgar i wneyd daioni ynddi tra y parhaodd ei thymer byr.
4. Yr oedd yn ddarllenyddes ragorol. Mae beirniaid yr eisteddfodau a'r cyfarfodydd llenyddol yn dystion i hyn.
5. Yr oedd ganddi gariad gwresog at y Beibl.
6. Yr oedd yn ufudd i'w rhieni; ond er yr holl rinweddau a addurnent ei bywyd, bu farw. Ac am ddeg o'r gloch boreu dydd Meroher dylynol, ymgasglodd tyrfa fawr i hebrwrg yr hyn oedd farwol o honi i feddrod (a brynwyd ac a roddwyd yn anrheg i'w rhieni gan y brawd hadlionus, Rice Roberts), yn mynwent Williamsburgh. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parcbn. Mr. Harrison, Spring Green, Wisconsin; Evan J. Evans, Williamsburgh, a'r ysgrifenydd. Pregethir pregeth angladdol iddi prydnawn Sabboth, Tachwedd 6ed, oddiar Dat. 14, 13. Bydded Duw yn dyner wrth ei rhieni galarus.
J. V. JONES.