MRS. MARGARET WILLIAMS. LIME SPRING, IOWA.

Mawrth 9fed, 1881, yn Lime Spring, Iowa, yn 85 oed, Mrs. Margaret Williams, priod Mr. William Williams (Pant Coch, fel yr adnabyddir hwy).

Bu yn gorwedd am bedalr wythnos heb ddim afiecbyd neillduol. Yr oedd colofnau y tŷ fel yn ymollwng gyda'u gilydd. Tarawyd hi gyntaf â convulsive fit, fel arwydd fod angau an orphen ei waith cyn hir arni.

Ganwyd hi yn Llanwnda, Sir Gaernarfon, Gogled Cymru, a magwyd hi yn Rhostryfan, yn yr un plwyf, ar fferm o'r enw Gaerwen; ac yn yr ardal hono y bu yn byw am 46 mlynedd. Yno y priododd, ac yno y ganwyd yr oll o'i phlant, sef saith, o'r rhai y mae pump yn fyw - pedwar o feibion ac un ferch.

Y mae llawer o bethau dyddorol iawn yn hanes bywyd y wraig dduwlol hon; a chan ei bywyd yn deilwng o gofiant, daw hyny allan yn y Cyfaill, felly ni wnawn ond crybwyll ychydig o bethau yma am dani.

Gadawodd yr hen ŵr ar ôl - yntau dros ei 83 mlwydd oed, wedi byw yn ŵr a gwraig am 59 mlynedd. Symudodd y teulu o Tanygrisiau, Ffestiniog, i America yn 1846, a sefydlasant yn Blue Mounds, Wisconsin, ac eu tyddyn yno, set Pant Coch, y buont yn byw am dros 28 mlynedd, lle cafodd gwelnidoglon yr hen Gorff, a llawer eraill, groesaw calon ganddi.

Gan eu bod yn telmlo yn unig yno heb un o'r plant, symudasant at eu hunlg ferch, Mrs. William J. Williams, i ardal Bristol Grove, Minnesota, lle y buont yn byw hyd mis Medi, 1880. Er bod yn fwy cyfleus i'r capel symudasant at eu mab, J. W. Williams, Lime Spring, ac yno gorphenodd ei gyrfa mewn tawelwch a llawn hyder ffydd. Cafodd llawer iawn o'i chyfelllion gyfleusdra i wrandaw arni yn canmol trefn gras, a'r gobaith oedd ganddi i fod gydag ef a bod byth yn debyg iddo; a chynghorion diweddaf ein mam dduwiol oedd am i ni fyw yn dduwlol, canys hyny sydd yn talu yn dda. Bu yn hynod lwyddianus i gael llawnder o bethau y byd yma trwy ei hoes faith, a diddadl genym ei bod yn gyfoethog iawn yn marw.

Dymunai gael ei chladdu yn mynwent Bristol Grove, Minnesota. Dydd lau y lOfed awd a'r corff i dy ei merch, a Gwener yr lleg claddwyd y rhan farwol ohoni yn mynwent Bristol Grove.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. John D. Williams, yn y capel ac wrth y bedd gan y Parch. O. B. Morris.
TRYFAN.

Y Drych ~ Mawrth 31ain 1881.


MRS. MARGARET WILLIAMS. LIME SPRING, IOWA.

Mawrth 9fed, 1881, bu farw Mrs. Margaret Williams, priod Mr. William Williams, Pant Coch, yn Lime Spring, Iowa, yn llawn 85 mlwydd oed, Ni chafodd gystudd maith - bu yn gorwedd am bum' wythnos. Ysgydwyd colofnau y babell â convulsion fit, a chyd ymollyngasant mewn henaint a gwendid. Dangosai awydd mawr am gael ymadael o'r hen babell wael i uwch sefyllfa sef y "ty nid o waith llaw;" felly gollyngwyd ei hysbryd mewn tangnefedd at yr hwn a'i rhoes.

Claddwyd yr hyn oedd farwol yn mynwent Bristol Grove. Gadawodd yr hen ŵr ei phriod ar ôl, yntau yn 83 mlwydd oed, pedwar o feibion ac un ferch. Teimlant oll yn chwith ar ôl mam a phriod, wedi cael ei chwmni am gymaint o flynyddau. Ond yn yr ystyriaeth o'i dymuniad hi i fyned adref, a'i pharodrwydd i'r nef, maent yn ymdawelu.

Bu yn briod am 59 mlynedd. Ganwyd Mrs. Williams yn Llanwnda, Sir Gaernarfon, yn y flwyddyn 1796. Merch ydoedd i Griffith a Margaret Jones, Gaerwen, Rhostryfan, plwyf Llanwnda. Ar y fferm hon, y Gaerwen, y magwyd, ac y bu fyw hyd nes y priododd. Nid oedd neb o'r teulu yn proffesu crefydd yr amser boreu hwnw, ond ei mam, yr hon fu yn siglo cryd Methodistiaeth yn Rhostryfan.

Pan yn 26 mlwydd oed, priododd yn anrhydeddus â William Williams, ac ymsefydlasant yn yr un gymydogaeth ar dyddyn bychan o'u heiddo eu hunain. Galwyd y cartref newydd yn Pant Coch, ac wrth yr enw yma yr adnabyddir hwy gan lawer hyd heddyw.

Ganwyd iddynt saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched. Claddwyd un ferch yn Llanwnda, pan yn faban, a chladdwyd Margaret, y ferch henaf, pan yn 24 mlwydd oed, yn Blue Mounds, Wisconsin, yr haf cyntaf wedi i'r teulu ddyfod o'r Hen Wlad, yr hyn a fu yn brofedigaeth chwerw i'r teulu, yn enwedig i Mrs. Williams.

Yn y flwyddyn 1842, pan oedd chwarelau Llanllyfni dipyn yn farwaidd, symudodd y teulu i Ffestiniog i fyw, a buont yno am bedair blynedd. Yn y flwyddyn 1846, symudasant i America. a daethant i Boston mewn llong o Bangor, a llwyth bychan o slates ynddi. Oddiyno hwyliasant yn mlaen am Wisconsin, a sefydlasant yn Blue Mounds, Swydd Iowa. Yr oedd yno ychydig o deuluoedd wedi ymsefydlu o'u blaen hwy, a'r ychydig hyny o wahanol enwadau crefyddol, wedi dechreu cadw moddion o dŷ i dŷ. Cwynai Mrs. Williams dipyn am ei phorfa crefyddol yn Blue Mounds, ac felly y teimlai llawer fel hithau, ond dangos ffyddlondeb a gweithgarwch mawr a wnaethant oll, a chyn hir daeth amryw o Gymry yn rhagor i'r lle.

Yr oedd yn fan lled fanteisiol yr adeg hono ar lawer ystyr - yr oedd gwaith mwn plwm Dodgeville yn gyrchfa llawer o Gymry, a daeth Methodistiaeth yn llewyrchus yno. Daeth yn lle poblogaidd, fel ag i ffurfio cysylltiad agos rhyngddynt a gwahanol sefydliadau Cymreig Wisconsin. A chan fod ardal Blue Mounds ar y ffordd i Dodgeville a Madison, yr oedd yn lle cyfleus i Gymry alw heibio. Yr oedd y diweddar anwyl Barchedig John Davies Picatonica, fel wedi ei osod yn y pen gorllewinol i'r glorian Fethodistaidd yn y Dalaeth, ac fel bugail craffus gwelodd fod rhai o'r defaid wedi eu gwasgaru ar hyd llethrau coediog y Blue Mounds. Er nad oedd ef eto ond ieuanc fel pregethwr, dangosodd ofal mawr am y ddeadell fechan hon, o wahanol enwadau.

Tua yr adeg yma y cynaliwyd y Gymanfa gyntaf yn Dodgeville, sef yn 1846, a thrwy y cysylltiadau crefyddol hyn y daeth gwrthddrych ein cofiant i adnabyddiaeth a chymaint o weinidogion yr hen Gorph. Croesawodd a gwasanaethodd lawer arnynt : agorodd ei thŷ led y pen iddynt oll, a pharhaodd felly am y cyfnod o wyth mlynedd ar hugain y bu yn byw yno, a mawr oedd ei mwynhad yn eu cymdeithas. Prif hynodion ei bywyd oeddynt, ei deheurwydd i fyw gofal am ei theulu, ei ffraethineb i ddyweyd ac ateb, yn ddidderbyn wyneb, ei chwaeth at ddarllen y Beibl, a llyfrau da eraill, a'i chysondeb wrth orsedd gras.

Pan oedd cyfarfod gweddi merched, fel ei gelwir, yn flodeuog iawn yn Rhostryfan, yr oedd hi yn un o'r rhai mwyaf ffyddlon a gweithgar ynddo. Cadwai y ddyledswydd deuluaidd yn gyfan yn absenoldeb ei phriod, os na byddai dynion crefyddol yn aros yn y tŷ. Cofus genym unwaith iddi gael clefyd trwm iawn yn Ffestiniog, a dygwyddodd i'r amgylchiad fyned heibio heb i un o flaenoriaid yr eglwys ddyfod i'w gweled pan yn glaf, a'r noswaith seiat gyntaf iddi fyned i'r capel wedi gwella, daeth un o'r blaenoriaid, yr hwn oedd yn byw yn lled agos ati, yn mlaen i ofyn ei phrofiad iddi - "Wel, Margaret Williams, yr ydych chwithau wedi cael byw eto i ddyfod atom i'r seiat; mae yn dda iawn genym eich gweled wedi cael mendio eto," " Wn i ddim yn wir (meddai hithau) ydi yn dda gynoch ai peidio, ychydig iawn o ofal a welais i gin neb o honoch chi am danaf fi na fy mhrofiad pan oeddwn yn sal - welais i neb o honoch chi acw, na chlywed eich bod wedi bod. Fasa' fawr i ch'i ddyfod i edrych am danaf, ac oni bae fod genyf ryw un i'm cysuro heblaw ch'i, buasai fy mhrofiad yn bur isel yma heno."

Wedi i'r hen flaenor gael tipyn o wers ganddi felly ar g'oedd, trodd yn ôl i'r sêt fawr, a chymellodd rai o'r blaenoriaid eraill i fyned i'r ffrynt, ond neb yn myned. Dechreuodd hithau ddyweyd ei phrofiad, ac aeth pob peth yn mlaen yn dawel. Nid ydym yn gwybod fod un bwlch erioed wedi bod yn ei chrefydd, nac un tramgwydd oddiwrthi i'r achos da. Fel y dywedwyd o'r blaen, nid oedd neb o'i theulu yn proffesu crefydd ond ei mam, ac yr oedd hithau tua 35 mlwydd oed pan yr ymunodd gyntaf a chrefydd, yn Rhostryfan, a hyny ar adeg diwygiad hynod a fu yno tua yr amser.

Soniai lawer trwy ei hoes am yr adeg hono, fel yr adeg y gwelodd ei hun yn bechadur, ac y gwelodd trwy ffydd y Gwaredwr a fu yn anwyl iawn ganddi hyd y diwedd. Bu Rhagluniaeth yn dyner iawn wrthi trwy ei hoes - rhoddodd bob llawnder o bethau y bywyd hwn iddi, a bu hyny yn fanteisiol iddi wneyd llawer at achos crefydd mewn llawer dull a modd. Yr oedd iddi hithau ei ffaeleddau a'i gwenididau fel pawb eraill; ond fel yr oedd yn heneiddio ac yn addfedu, - yr oedd rhyw ysbrydolrwydd yn ei phroíiad, grym a nerth yn ei chyngorion, a naws nefolaidd yn ei chymdeithas. Rhoddodd dystiolaeth eglur o werth gwir grefydd i lawer iawn o'i chyfeillion pan yn rhydiau yr afon. Yr oedd dull gwamal, oer, diwaith, crefyddwyr ieuainc yr oes hon, yn poeni llawer arni.

Ni welais un erioed o'i hoedran yn darllen cymaint ar y Beibl, pregethau, cofiantau, a'r Cyfaill, a.y., ag a ddarllenodd hi. Dywedem wrthi yn fynych, fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." "Dichon ei fod," meddai, "ond y mae yn ymborth i'm henaid i. Nid oes genyf fawr o olwg ar yr hen gorph yma yn awr, mae ef wedi mynd mor wael, ond mi gaf un gwell." Gobeithio yr atebir gweddiau mam dduwiol ar ran ei pherthynasau, ac y bydd i'w chyngorion gwerthfawr a roddwyd ganddi megys oddiar drothwy y nef, gael effaith dyladwy ar y byw. Gallasem chwanegu llawer at hyn, ond rhag trethu gofod y Cyfaill â meithder, ymataliwn.

Cafodd yr hen chwaer hon dymor maith yn ngwinllan ei Harglwydd, a chafodd fodd i ddal ei ffordd a chwanegu cryfder. Yr oedd ei chrefydd yn gloywi ac yn gwella o hyd at ei diwedd. Flynyddau lawer yn ôl, yr ydym yn cofio y byddai yn cwyno ac yn ofni llawer am ei chyflwr; ond y blynyddau diweddaf yr oedd yn gyffredin yn llawer mwy hyderus am ei chyflwr ac addfedrwydd ei phrofiad crefyddol. Mae profiad o bethau ysbrydol crefydd yn beth prin ac anhawdd iawn ei gael mewn llawer eglwys y dyddiau hyn. Ond yr oedd yr hen chwaer hon, fel yr oedd yn amlwg, yn ymborthi ar y manna cuddiedig, ac yn cael ambell "swp o rawn" i'w fwyta, ac yn gallu dwyn ambell deisen fechan i fwrdd yr eglwys, er mwynhad i'r holl gymdeithas, ac yr oedd ei phresenoldeb yn help mawr i gadw seiat lawer gwaith, ac y mae yn chwith genym fod hebddi yn y gyfeillach eglwysig. Cafodd ei digoni â hir ddyddiau a huno yn yr angeu a'i llygaid yn gweled iachawdwriaeth Duw.

Cafodd farw heb ofni marw, o herwydd chwerwedd marwolaeth a aeth ymaith. Pregethwyd pregeth angladdol iddi gan yr ysgrifenydd yn eglwys Bristol Grove, oddiar y geiriau, "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gŵr hwnw fydd tangnefedd."
O. R. MORRIS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Medi 1881.