MR. OWEN WILLIAMS, WILLIAMSBURGH, IOWA COUNTY, IOWA.

Hydref 16eg, 1881, yn ardal Wllllamsburgh, Iowa, Owen Williams.

Blin, trwm ac angeuol fu ei gystudd.

Ganwyd yr ymadawedig ger Bontddu, sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1828. Ymunodd mewn glan briodas â Miss Mary Jones, merch i William ac Ann Jones, Oamsaigon, Meirion.

Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gyda'r Wesleyaid yn Barmouth gan y Parch. David Evans. Bu yn ddiacon ffyddlon, gonest a da am amrai flynyddau yn Pen Nebo.

Ymfudasant i America yn 1873, ac ymsefydlasant yn ardal brydferth, ffrwythlon, dawel Williamsburgh, lle y bu hyd nes yr ehedodd ei ysbryd pur at Dduw, yr hwn a'i rhoes.

Gan nad oedd eglwys Gymrelg o'i enwad ei hun yn y fro, cyflwynodd ei lythyr i'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig yno. Cafodd dderbyniad cynes, a pbarhaodd yn aelod parchus a ffyddlon yn y cymundeb hwnw, ac yn addurn i'w broffes hyd ei fedd.

Y dydd Mawrth canlynol cafodd gladdedigaeth barchus ac anrhydeddus iawn. Dangosodd yr eglwys a'r holl ardal eu bod yn daearu dyn da a Christion cywir a didwyll. Dygwyd y corff o'r tŷ i'r capel, lle y cynaliwyd gwasanaeth crefyddol, ac yn absenoideb yr ysgrifenydd y gweinyddodd y Parchn. Morgan Williams, Kansas; Howells, Milwaukee; John B. Williams ac Evan J. Evans, Williamsburgh. Ar ôl y gwasanaeth aed a'r corff i fynwent Williamsburgh, lle ei claddwyd mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad gwell. Gellir dysgwyl cofiant helaethach yn yr Eurgrawn am y brawd teilwng hwn.
J. V. J.

Y Drych ~ Rhagfyr 8fed 1881.