MR. R.D. WILLIAMS. PUEBLO, COLORADO.

Mawrth 26ain, 1881, yn Pueblo, Colorado, R. D. Williams, yn 58 mlwydd, 4 mis a 5 diwrnod oed.

Ganwyd ef yn y Bala, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1822.

Ymfudodd i America yn 1844, ac ymsefydlodd yn Cumberland, Maryland.

Bu wedi hyny yn byw yn Ohio, ac oddiyno daeth i Colorado yn 1872. Sefydlodd yn Pueblo, ac yno y bu hyd ei farw.

Llanwodd amryw swyddau pwysig yn ystod el arosiad yn ein mysg, gan wneyd cyfeillion o bawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn gymeriad diargyhoedd, diddrwg a diniwed, heb falais na dichell tuag at neb, a phob amser yn barod ac ewyllysgar i gynorthwyo y tlawd a'r angenus. Yr oedd iddo air da gan bawb, a bydd gwerthfawr genym ei goffawdwriaeth. Mawr gydymdeimlwn a'i weddw at blant.

Claddwyd ef dan nawdd yr Odyddion. Pregethwyd gan Dr. Cornelius, gwenidog y Bedyddwyr, o eglwys yr hwn yr oedd yr ymadawedig yn aelod.
M. B. MORRIS.

Y Drych ~ Ebrill 14eg 1881.