MR. WILLIAM E. WILLIAMS. FREEDOM, CATTARAUGUS COUNTY, NEW YORK.

Yn Freedom, Swydd Cattaraugus, New York, Gorphenaf 29ain, 1881, yn 92 mlwydd oed, Mr. William E. Williams.

Adnabyddid ef yn gyffredin wrth yr enw Williams Pwllyciw. Ganwyd gwrthddrych y nodiadau hyn yn Gwag-y-noe, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn mis Gorphenaf, yn y flwyddyn 1789.

Pan yr oedd ef yn dra ieuanc, symudodd ei rieni i le a elwir Uwch-y-mynydd, ac oddi-yno drachefn i Pwllyciw, yn mhlwyf Aberdaron, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yno yr arosodd hyd ei ddyfodiad i'r wlad hon.

Ymunodd mewn priodas â Miss Margaret Lewis, o'r un lle, yr hon a fu yn gydmares hawddgar a ffyddlon iddo am dros haner cant o flynyddau. Gadawodd hi y fuchedd hon tua 16 o flynyddau o flaen ei hanwyl briod. Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1832, a sefydlasant yn Holland Patent, plwyf Trenton, Oneida County, New York. Buont yno 14 o flynyddau, ac yn y flwyddyn 1846, daethant i'r lle hwn.

Unodd yr ymadawedlg â chrefydd pan yn 23 oed, gydag enwad parchus y Wesleyald; ac ar ei ddyfodiad i Oneida, ymaelododd ef a'i briod yn eglwys Sixty; ond wedi iddynt ddyfod i'r lle hwn, cymerasant eu haelodaeth gyda'r Annibynwyr ar y County Line, o herwydd nad oedd yma un eglwys gan y Wesleyald. Yr un oedd ef o ran ei farn. Parhaodd yn aelod gyda'r Annibynwyr hyd angau. Bu yn aelod bywiog, diwyd a gweithgar, tra y parhaodd yn alluog i ddylyn moddion gras. Ystyrid Mr. Williams gan bawb a'i hadwaenai yn un o'r dynion mwyaf parchus a chrefyddol yn yr holl gymydogaeth; ac nid oedd neb yn ameu ei dduwioldeb, oblegid ymddysgleiriai yn ei ymarweddlad pur a chyson, ac yn ei holl ymdrafodaeth a'r byd. Yr oedd crefydd lesu Grist yn llanw ei enaid; hi oedd yn teyrnasu yn y dyn mewnol ac ysbrydol, ac yn llywodraethu ei holl ysgogiadau. Nid crefydd fits and starts oedd ganddo ef, fel y gwelir gan lawer yn rhy aml y dyddiau hyn, ond "crefydd round," fel y dywedai yr hen bobl. Yr oedd yn blaen, gonest, a dirodres bob amser.

Ffieiddiai weniaith a'i holl enaid, a cheryddai y balch yn llym yn ei wyneb. Cyfeiriai gyda dyddordeb at hen bregethwyr tanllyd a hwyllog, dechrau y ganrif bresenol; ac adroddal eu testynau yn nghyd a darnau o'u pregethau, a byddai'n aml yn tywallt y dagrau yn hidl wrth wneyd hyny. Dymunol oedd ei glywed yn adrodd am y diweddar T. Rees Davies (y Cap du), ac amryw eraill.

Yr oedd yn hoff lawn o ddarllen Gair Duw. Dyma'r ffynonell fawrr, o ba un y tynai yn wastadol faeth a chysur. Trysorodd lawer o hono ar ei gof, ac ysgrifenodd ddyfyniadau lluosog o hono, y rhai a ddangosai i'w gyfelllion pan ar ymweliad ag ef. Y Belbl a'i athrawiaethau dwyfol oedd ei bob peth ef er's amser maith. Yr oedd yn nodedig am adrodd geiriau y Beibl yn hollol fel y maent, gan roddi y pwyslais dyladwy fynychaf yn y lle y dylal fod.

Gadawodd berarogl dymunol ar ôl yn y teulu a'r gymydogaeth yn gyffredinol. Y mae efe yn ei aml rinweddau, er wedi marw, yn llefaru eto. Bu farw fel y bu byw, a'i ymddiried yn ddisigl yn ei Waredwr. Rhal o'i eiriau olaf oedd - Crist yn y galon yw gobalth y gogoniant." Bu i'r ymadawedig a'i briod un ar-ddeg o blant, o ba rai y mae saith eto ar dir y byw. Y mae y mab hynaf, sef Samuel Williams, yn Illinois; ac un ferch, sef Mrs. Davies, yn Iowa. Y mae dau fab yma, sef W. W. Williams, a John W. Williams, yr hwn sydd yn ddiacon parchus yn eglwys y Bedyddwyr. Y mae yma dair merch, sef Mrs. Owens, Mrs. Higgins, a Mrs. Benjamin, Claddwyd un ferch i Mr. Williams, yr ymadawedlg, yn ddiweddar o'r ardal hon, sef Mrs. Margaret Roberts, hanes marwolaeth yr hon a ymddangosodd yn y DRYCH; ond anghofiodd y gohebydd hwnw, mae yn debyg, son dim am el chladdedigaeth.

Pa fodd bynag, claddwyd hi yn barchus yn mynwent Ebenezer, capel y Bedyddwyr, a gwasanaethwyd ar yr achlysur gan ysgrifenydd y llinellau hyn. Claddwyd gwrthddrych y cofiant byr hwn yn yr un fynwent. Daeth torf luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, ac hawdd oedd deall wrth agwedd y gynulleidfa fod un a gerid, ac a berchid yn fawr yn cael ei roddi yn y bedd y diwrnod hwnw. Gwenyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd. Heddwch i'w llwch.
W. M. EVANS.

Y Drych ~ Medi 1af 1881.