MR. DAVID W. DAVIES, ROCK HILL, KINGSTON, WISCONSIN.
Chwefror 23ain, 1882, yn Rock Hill, yn agos i Kingston, Wisconsin, yn 73 mlwydd oed, David W. Davies.Magwyd ef yn Llwyn-ynn, Llanddwywe, Meirionydd. Symudodd ef a'i deulu i'r wlad hon yn 1850, a prynodd dir yn Rock Hill, a gwnaeth ei gartref arno, yn yr hwn y bu farw ar ôl dyoddef poen am wythnosau oddiwrth ryw gasgliad tufewn i'w ochr.
Yr oedd wedi ymuno a'r eglwys er's blynyddoedd. Yr oedd lluaws mawr yn ei gydhebrwng i'r fynwent, ac yr oedd hyny yn beth allasid ei ddysgwyl, o herwydd nad oedd neb ffyddlonach nag ef am fyned i angladdau. Pregethodd y Parch. Rees Evans, Cambria, ar yr achlysur yn nghapel Rock Hill, Sabboth ar ôl ei gladdu.
Mae ei farwolaeth wedi peri galar dwys i'w briod ac i'w fab a'i ferch, o herwydd yr oeddynt fel teulu yn fwy hoff ac anwyl o'u gilydd na'r cyffredln; ac nid oeddynt yn ol i neb o ymddwyn yn garedlg at eraill. "Fel y derfydd y cwmwl ac yr â ymaith; felly yr hwn sydd yn disgyn i'r bedd ni chyfyd mwyach; a'i le nid edwyn ef mwy."
D. T. PRICE.