MR. ISAAC W. DAVIES, 37 OSWEGO STREET, UTICA, NEW YORK.

Bu yn nychu yn y darfodedigaeth am ddeunaw mis, a dyoddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach, Yr oedd Mr. Davles yn enedigol o Dowyn, Meirionydd, Gogledd Cymru., a daeth drosodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1872. Yr oedd yn disgyn o deulu parchus a chrefyddol, ac yr oedd ei ddiweddar dad yn ddiacon ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn Nhowyn; ac yr oedd yr olwg dawel oedd arno yn ei fynydau olaf, yn tystio yn eglur fod y "ffyad ddiffuant" a drigasai yn ei henafiaid yn trigo ynddo yntau. Nid oedd yn rhoddi ei hunan i farw o gwbl nes o fewn ychydig ddiwrnodau i'w farwolaeth.

Cofiwn yn hir am y diwrnod pan y dywedodd y meddyg wrtho nad oedd modd i'w wella - wylai fel plentyn, ac yn wir, mor dorcalonus oedd meddwl marw pan oedd natur a phobpeth o'i amgylch yn ymddangos yn llawn bywyd; ond marw a fu raid. Arweiniodd fywyd tawel a dlgynwrf; ac megys y bu yn ei fywyd, felly hefyd ddyddiau olaf dymunai gael myned o'i boen — ha! yr oedd bywyd erbyn hyn wedi myned yn faich. Siaradai mewn llais cryf ychydig cyn marw, a'r peth olaf a ddywedodd oedd gatw ar ei dad, yr hwn oedd wedi ei ragflaenu ers tair blynedd, O! nhad anwyl, O nhad, y mae ar ben arna' i." Wedi llefaru y geiriau hyn, efe a hunodd; ac ni obeithiwn ei fod wedi huno yn yr Iesu.

Claddwyd ef y Sabboth canlynol yn Forest Hill Cemetery, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. W. B. Joseph. Bu amryw gyfeillion yn dra charedig wrtho yn ystod ei afiechyd, am hyn y dymuna berthynasau gyflwyno eu diolchgarwch gwresocaf iddynt. Na foed i'r un troed anystyriol fathru ar ei fedd a boed heddwch i'w lwch hyd nes y byddo

''Dorau beddau y byd
Ar un galr yn agoryd.'

Y Drych ~ Mawrth 23ain, 1882.