MR. WILLIAM EDWARDS, PLYMOUTH, AMADOR COUNTY, CALIFORNIA.

Medi 9fed, 1882, yn 23 mlwydd oed, William Edwards, Plymouth, Amator County, California, yr hwn a ddaethai i'r wlad hon oddeutu 13mis yn ôl o Bethesda, Gogledd Cymru. Gadawodd fam yn weddw, yr hon addawsai ei chadw tra y byddai byw.

Wedi cyraedd yma cafodd waith yn yr Empire Gold Mining Company, lle y gweithiodd am flwyddyn; ac yn ôl ei addewid byddai yn anfon arian bob mis i Gymru. Yr oedd yn aelod o'r band, a'r goreu a fu gyda hwynt erioed. Oddeutu dau fis yn ôl cymerwyd ef yn glaf gan y chills and fever, yr hyn a drodd yn typhoid fever tua phum diwrnod cyn ei farwolaeth.

Yr oedd yn un o'r angladdau mwyaf a welwyd yn Plymouth. Chwareuwyd y "Dead March" gan y band o'r tŷ i'r capel, lle y gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. Mr. Belnap, ac hefyd wrth y bedd. Bydded yr hwn sydd yn dad i'r amddifaid ac yn farnwr y gweddwon yn farnwr i'w fam.
JOHN H. JONES.

Y Drych ~ Hydref 19eg, 1882.