MRS. SARAH ELLIS, RATON, NEW MEXICO.
Awst 7fed, 1882, yn Raton, New Mexico, Sarah Ellis, priod Mr. Lewis Ellis, yn awr o Emporia Kansas.Cymerwyd hi yn glaf o'r typhoid fever, o'r hwn y bu farw, gan adael priod a geneth fechan tua chwe mis oed mewn gwlad bell yn mhlith estroniaid. Dygwyd y corff i Emporia a chladdwyd yn mynwent Salem, ger Dry Creek, y gweinidogion Rees a Jones yn gwasanaethu wrth y bedd. Yr oedd Mrs. Ellis yn ferch i Richard a Gwen Jones, Murpoeth, Celynin, Towyn, Meirionydd.
Yr oedd yn wraig rinweddol yn llawn ystur y gair. Ychydig cyn myned allan i Mexico gwnaeth broffes dda o'i ffydd yn Mab Duw. Bydd yn dda gan ei lluosog berthynasau a chyfeillion yn Nghymru ddeall fod yr eneth bach yn cael pob gofal ac yn dod ymlaen.