MRS. ELINOR EVANS, MANKATO, MINNESOTA.
Hydref 28ain, 1882, wedi hir a phoenus gystudd, o'r clefyd tywyllodrus y darfodedigaeth, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, bu farw Mrs. Elinor Evans, anwyl brlod Mr. David D. Evans, Mankato, Minnespta, merch ydoedd i Morris a Mary Vaughan, o yn agos i Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni ac ymsefydlasant yn agos i Utica, New York, yn yr hwn le hefyd yr ymbriododd â Mr. Evans 31 o flynyddoedd yn ôl i'r nos ddiweddaf o'r flwyddyn hon. Yn lled fuan ar ôl priodi; ymfudasant i South Bend, Minnesota, ac wedi ymlladdfa galed a'r byd yno am flynyddau, a'i orchfygu ganddynt i raddau helaeth, symudasant i Mankato,lle y treuliodd hi weddill ei hoes.
Bu iddynt ddeg o blant, tri o'r rhai oedd wedi blaenu i'r byd tragwyddol; ac y mae saith yn fyw a phriod tyner galon a dwys alaru ar ei hol, a diau y bydd ei dwy chwaer sydd yn Utica a'i brawd sydd heb fod yn mhell oddiyno, yn teimlo yn gyffelyb pan glywant y newydd, heblaw lluaws o berthynasau a chyfeillion anwyl oedd iddi yn ei chylchoedd bywyd mewn gwahanol leoedd.
Dygwyd hi i fyny yn grefyddol o'i mebyd, a glynodd yn ei phroffes yn ffyddlon ar hyd ei hoes. Nodwedd neilltuol ei chrefydd oedd ffyddlondeb a difrifoldeb. Dynes onest ac o ddifrif ydoedd Mrs. Evans gyda phob peth, byd a chrefydd; ac ni chaed y llychwin lleiaf ar ei chymeriad moesol na chrefyddol ar hyd ei hoes. Ei thystiolaeth wrth ysgrifenydd hyn o linellau ychydig fisoedd cyn ei hymddatodiad, oedd fod y Belbl y llyfr gwerthfawrocaf yn ei meddwl, a bod ei chariad ato yn cynyddu bob dydd; a'i thystiolaeth ddiweddaf wrth ei hanwyl briod oedd - "I am saved, sure;" ac fel yna y tertynodd y chwaer anwyl hon ei gyrfa ddaearol, mewn sicr obaith am ddiogelwch ei chyflwr ysbrydol.
Yn ei marwolaeth collodd Mr. Evans briod gynil, ofalus ac ymgeleddgar; y plant fam dyner a darbodus, a'r eglwys aelod ddystaw a thangnefeddus, yr hon a berchid yn fawr fel cymydoges garedig a chymwynasgar.
Y dydd Llun canlynol ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i dalu y gymwynas olaf i'w llwch. Ni arbedwyd traul na chostau gyda meddygon a phethau angenrheidiol er ei chysur a'i hadferiad, pe buasai yn ddichonadwy; cafodd bob ymgeledd a gofal ag a allai priod a plant ei weinyddu iddi yn, a thrwy holl ystad ei gwaeledd. Hefyd cafodd gladdedigaeth o'r fath fwyaf anrhydeddus, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel Presbyteraidd, yn yr hwn yr oedd yn aelod, gan y Parch. George Polok. Daearwyd ei chorff yn Mankato Cemetry, i'r hwn le y symudwyd o fynwent South Bend dri o'i phlant bychan i orwedd wrth ei hochr hyd ganiad yr udgorn diweddaf.
DANIEL T. ROWLANDS.