MRS. ELIZABETH EVANS, 82 LANSING STREET, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Hydref 31ain, 1682, yn 56 mlwydd, 1 mis a 29 diwrnod oed, Elizabeth, priod Mr. Lewis B. Evans, 82 Lansing Street, Utica, ar ol hir nychdod. Yr oedd yn ddynes a berchid gan bawb, ac yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr. Bydd i lawer o ddyeithriaid deimlo yn chwlth pan ddeuant i Utica, a chael ei lle yn wag, canys yr oedd ei thŷ yn agored bob amser i bregethwyr ac eraill.Gadawodd briod ac un chwaer - Mrs. Jane Edwards. Middle Granville, heblaw llu mawr o berthynasau i alaru ar ei hol. Cafodd un o'r angladdau mwyaf lluosog y dydd Gwener canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Thomas Jenkins, Waterville a W. B. Joseph (Y Myfyr). Daeth Mrs. Evans i'r wlad hon o Bethesda ddeugaln mlynedd yn ôl.