MR. HUGH E. GRIFFITHS, ATTICA, NEW YORK.
Rbagfyr 16eg, 1882, yn Attica New York, Hugh E. Griffiths, yn 74 mlwydd, 10 mis a 2 ddiwrnod oed.Ganwyd ef yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Enw ei dad oedd Evan G. Griffiths, ac enw ei fam oedd Dorothy Hughes.
Pan oedd Hugh tua 10 oed ymfudodd ei rieni o Gymru i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Steuben, swydd Oneida, yr oedd hyn tua 64 o flynyddau yn ôl; ac yno bu ei dad farw.
Yn 1836 ymunodd mewn priodas â Mrs. Elizabeth Thomas; yn 1830 daeth i weled yr ardal hon, a phrynodd ffarm a symudodd ei deulu yma. Bu yn ddiwyd iawn yn hwyr ac yn foreu, fel y daeth i sefyllfa lled gysurus o ran ei amgylchiadau, er fod ganddo deulu lluosog. Anaml iawn y mae teulu cyffelyb. Cafodd naw o blant, sef pedwar mab a phump o ferched, y rhai ydynt yn fyw - wyth wedi priodi a'r mab ieuengaf yn byw gyda'i fam. Y maent oll yn byw yn y plwyf, ac yn gysurus o ran eu hamgylchiadau; ni chafodd eu rhieni ofid erioed oddiwrth yr un o honynt. Yr oeddynt oll yn cynhebrwng eu tad, yn nghyd ag wyth o wyrion.
Er's tua saith mlynedd yn ôl peuderfynodd adeliadu tŷ yn y dref, ac felly bu, gyda'r amcan iddo ef a Mrs. Griffiths fwynhau prydnawn-ddydd eu bywyd mewn llonyddwch. Tua dwy flynedd a haner yn ôl cymerwyd ef yn sal iawn; ond gwellhaodd ryw gymalnt, fel y gallal fyned ychydig o gwmpas; pa fodd bynag, bu am yr holl amser yna heb fwynhau cysuron gwely o gwbl - yn y gadalr yr oedd yn gorphwys a chysgu, ac ar y gadair y bu farw. Ei afiechyd oedd y dropsi a chlefyd y galon. Dyoddefodd lawer; ond gofalodd Mrs. Griffiths am dano yn dyner iawn trwy ei holl selni, fel y gellir dweyd mewn gwirionedd ei fod wedi bod yn ymgeledd gymwys iddo yn ystyr helaethaf y galr. Yr oedd yn cael ei chynorthwyo yn ffyddlawn gan y plant; ac O mor werthfawr yw bod plant yn ymddwyn yn dyner a pharchus tuag at rieni mewn henaint a methiantwch.
Gellir dweyd am dano el fod yn ddyn diwyd a gonest, yn gymydog ffyddlon, gŵr cariadus a thad tyner. Yr oedd yr olwg ar y cynhebrwng yn profi hyny, yn lluosogrwydd y bobl o bob cenedl oedd wedi dyfod yn nghyd a theimladau drylliog y fam yn nghyd a'r plant. Yr oedd difrifoldeb wedi meddianu pawb. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Cook, gweinidog y F. W. Baptist, yn dderbyniol iawn. Rhoddwyd ei weddillion i orphwys ar ôl hir ddydd o lafur a chystudd blin mewn mynwent dlos iawn tua dwy filldir o'r dref, lle y claddwyd ei fam a'i chwaer.
Yr oedd pob peth mewn cysylltlad a'r claddedigaeth yn barchua a threfnus iawn.
Gellir dweyd fod Mr. Griffiths yn derbyn y DBYCH er ei gychwyniad, ac yn ei ddarllen yn fanwl. Ie, yr oedd pob amser yn hiraethus am weled dyfodiad y papyr Cymraeg. Yr oedd yn Werinwr selog, a byddai yn arfer a dweyd fod pobl y DRYCH yn agos iawn i'w lle bob amser. Rhaid dweyd nad oedd yn proffesu crefydd, er ei fod wedi bod er's llawer o flynyddoedd yn ôl yn dyfod i'r gymydogaeth hon i fyw. Y mae lle mawr i ofni fod llawer iawn wedi myned ar grwydr yn y symudiadau mynych sydd yn y wlad hon. Piti garw na bae proffeswyr crefydd pan yn bwriadu symud or naill ardal i'r llall, yn ddigon gofalus i chwillo am gartref cysurus a manteisiol i'r enaid yn ogystal a'r corff; ond gallaf ddweyd am yr ymadawedig, mai yr hen Feibl oedd yn rhoddi y cysur mwyaf iddo yn nyddiau henaint a methiant, ac mai addewidion "yr hen lyfr" oedd yn melysu cwpaneidiau chwerwon cystudd a phoen. Ie, ambell adnod oedd yn taflu pelydr o oleuni dysglaer ar lwybr tywyll y glyn. Byddal yn sibrwd yr hen benill hwn yn aml :
"Af at yr orsedd eto,
Er dued yw fy lliw,
Pwy wyr na chaf drugaredd,
Un rhyfedd iawn yw Duw."
T. E.
Y Drych ~ Ionawr 4ydd, 1883.
MR. HUGH E. GRIFFITHS, ATTICA, NEW YORK.
Rhagfyr 16eg, 1882, yn Attica, New York, Hugh E. Griffith, yn agos i 75 ml. oed. Gadawodd weddw a naw o blant, oll yn byw yn mhlwyf Attica; wyth wedi priodi, a'r mab ieuengaf gartref gyda'i fam.Ei afîechyd oedd heart disease a'r dropsy. Bu yn gystuddiol ddwy flynedd a haner, neu ragor. Daeth i'r wlad hon gyda ei rieni, Evan a Dorothy Griffiths, o Sir Gaernarfon, 64 mlynedd yn ôl, a sefydlasant yn Steuben, Oneida County, New York. Deuddeng mlynedd a rhugain i Maerth, 1882, symudodd o Steuben i Attica, a thua saith neu wyth mlynedd yn ôl, adeiladodd dŷ yno a symudodd ef a'i briod iddo oddiar eu ffarm i dreilio gweddill eu hoes. Darllenai lawer ar y Beibl y blynyddoedd diweddaf, a chai lawer o bleser a chysyr i'w feddwl wrth hyny.
Rai dyddiau cyn marw, gweddiai a diolchai i'r Arglwydd am fod mor dda wrtho yn rhoddi cymaint o amser iddo i ymbaratoi. Byddai yn hoff iawn o ambell i hen benill, yn neillduol hwn:
"Af at yr orsedd eto
Er dued yw fy lliw,
Pwy wyr na chaf drugaredd -
Un rhyfedd iawn yw Duw."
Cafodd bob gofal ac ymgeledd a allai priod dyner a gofalus, a phlant tirion ei roddi trwy ei gystudd blin a maith. Yr oedd ei afiechyd y fath fel y gorfodwyd ef i orwedd y ddwy flynedd a haner diweddaf. Dydd Mawrth y 19eg ymgasglodd tyrfa luosogr i'w angladd a chyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn syml a difrifol yn y tŷ, ac wrth y bedd gan y Parch. C. P. Cook, F. W. Baptist.
Claddwyd ef yn mynwent brydferth Brainard, tua dwy filltir i'r dwyrain o'r dref, lle hefyd y claddwyd ei fam a'i chwaer. Claddwyd ei dad yn mynwent Capel Ucha, Steuben, yn y flwyddyn 1840 neu 1841.
E.G.