MRS. CATHERINE A HUGHES, 37 OSWEGO STREET, UTICA, NEW YORK.

Mehefin 25ain, 1882, yn Utica, New York, o'r darfodedigaeth, yn 25 mlwydd a 2 fis oed, Mrs. Catherine A. Hughes, gwraig William W. Hughes, No. 37 Oswego Street.

Ymfudodd Mrs. Hughes i'r wlad hon o Dowyn, Meirionydd, tua naw mlynedd yn ôl, ac aeth at ei hewythr i Pittsburgh, Pennsylvania; ond ni fu yn hir yno cyn dychwelyd i Trenton, New York, lle y bu yn aros gydag un Mrs. Ann Hughes. Oddi yma aeth i Nelson, New York, lle yr ymbriododd gydag un William. W. Hughes, yn Hydref, 1877. Bu iddynt ddau o blant, y rhai a adawydd i alaru ar ei hol. Bu farw ei mam flynyddau yn ôl o'r un clefyd, a thua tair blynedd yn ôl bu farw ei thad o hono.

Mawrth y 9fed, ar ôl deunaw mis o gystudd, bu farw ei brawd, Isaac Davies, o'r darfodedigaeth. Yn ystod ei salwoh ef ni thalai neb i estyn dim iddo ond ei chwaer, a bu hi yn ei wylied ddydd a nos mor ffyddlon ag oedd ddichonadwy, heb ond ychydig iawn o hamdden i gysgu. Yr oedd yn hoff iawn o Isaac, a bu ei farwolaeth yn ergyd drom iddi, a byddai beunydd yn son am dano. Talodd crefydd yn dda iddi; a phan ar ei gwely angeu nid oedd dim yn ei boddloni yn fwy na gweled y Parch. W. B. Joseph (Y Myfyr) yn dyfod yno i ddarllen a gweddio iddi, a dangosodd Mr. Joseph a'i aelodau barodrwydd bob amser yn hyn.

Mae i Mrs. Hughes dri brawd a thair chwaer yn Nghymru, ac un brawd an y ddinas hon. Bu Mrs. Ann Hughes yn hynod ofalus o honi yn ystod ei chystudd, a chafodd bob peth fyddai yn ofyn am dano. O ran hyny yr oedd fel plentyn yn ei golwg, a hi fu yn gofalu am dani hi a'i brawd Isaac er pan ddaethant i'r wlad. Diwrnod cyn iddi farw galwodd ar ei gŵr ati, a dywedodd wrtho: "William bach, yr wyf yn ddiolohgar iawn i ti am fod mor ffeind wrthyf; rhoddaist i mi bob peth y gofynais am dano;" ond ar hyn torodd i wylo wrth feddwl am adael ei gŵr a'i dau blentyn bach. Yr oedd yn bryderus yn nghyloh y plant, ac yn dymuno ar ei gŵr i wneyd yn fawr o honynt. Y noson olaf y bu fyw, ac ychydig fynydau cyn iddi farw, gwaeddodd allan: "Iesu anwyl, cymorth fi; 'does neb all fy helpu bellach ond tydi;" ac am oddeutu haner awr wedi dau boreu Sabboth y 25ain, hunodd yn dawel yn yr angeu.

Y dydd Mawrth canlynol claddwyd hi yn y Forest Hill Cemetery, pryd y daeth cynulliad lluosog i'w hebrwng, ac y cafodd angladd anrhydeddus. Gweinyddwyd ar yr achlysur, yn y tŷ ac wrth y bedd, yn Gymraeg a Saesneg, yn wir effeithiol, gan y Parch. Thomas M. Owen, Utica. Dymuna Mr. Hughes ddiolch i bawb am bob caredigrwydd a ddangoswyd iddo ef a'i deulu yn ystod salwch ei wraig. Heddwch i'w llwch.

Y Drych ~ Gorphenaf 13eg, 1882.