MR. HUGH HUGHES, NEWARK, OHIO.

Mawrth 25ain, 1882, yn Newark, Ohio, Hugh Hughes, yn 48 mlwydd oed. Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn Cedar Hill Cemetery, yn mhresenoldeb tyrfa fawr o Gymry ac Americanaidd, pryd y gweinyddwyd gan dri o weinidogilon parchus - Thomas Roberts (T. C.), E. J. Jones Newark, a Dr. Jones. Cincinnati, yr hwn a ddygwyddai fod yn y ddinas ar y pryd.

Gadawodd weddw alarus ar ei ôl, a thri o blant, y rhai sydd mewn oedran ac amgylchiadau i ofalu drostynt eu hunain. Y mae iddo hefyd wyres fechan tua Bala, Kansas, mam yr hon oedd yn ferch iddo ef, ond a tu farw o flaen ei thad, gan adael dau o blant ar ei hol, un o'r rhai fu farw o flaen ei fam. Ymfudodd Mr. Hughes i'r lle hwn tua 28 mlynedd yn ôl o Roewen, Sir Gaernarfon, lle heb fod yn mhell o Llanrwst. Felly, yn y dref a'r ardaloedd hyd y treuliodd gryn lawer dros haner ei oes.

Cafodd ei fagu a'i ddwyn i fyny yn nghyfundeb y T. C.; eithr ymunodd ef a'i anwyl briod i'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn y lle hwn tua phymtheg mlynedd yn ôl, ac mewn undeb a pha un y bu yn weithgar a ffyddlon hyd ei fedd. Tarawyd ef gan y typhoid fever ddechreu mis Gorphenaf, a bu yn agos bedwar mis yn gaeth gan effeithiau yr hen dwymyn hono. Tybid iddo gael cyflawn adferiad, ac aeth i weithio am rai wythnosau wrth ei alwedlgaeth fel masiwn; ond dechreu'r gauaf cyfyngwyd ef drachefn i'w dŷ, ac heb fod yn hir i'w wely. Dywedai ei feddygon mai relapse of the typhoid fever oedd ei afiechyd. Pa fodd bynag am hyny, torodd allan yn fuan grawn ddoluriau gwenwynllyd a phoenus dros ei holl gorff. Dyoddefodd boenau dirfawr am lawer o medrusrwydd ei feddygon ac er ymdrechion ffyddlon a diflino ei anwyl briod, yn cael ei chynorthwyo gan ei brawd John Felix, a chymdogion caredig a ddeuent yn ddyddiol am rai wythnosau i'w chynorthwyo i drin ei ddoluriau poenus, y rhai a achosid gan yr hyn a elwir blood poison.

Am rai dyddiau cyn iddo farw gofynai yn aml, ac yn bryderus iawn, am chwech o'r gloch, iddo gael myned adref; ac ychydig amser cyn iddo gael ei ryddhau, dywedai yn lled groew - "The time is up, It is six o'clock, get yourselves ready boys, I am all ready." A phan oedd hen gloch mawr y dref yn taro chwech y nos Sadwrn olaf o fis Mawrth, aeth ein cyfaill caredig Hugh Hughes "adref i'r wlad well, gwlad lle nad oes neb yn marw na neb o'i phreswylwyr yn dywedyd, claf ydwyf."
D. T.

Y Drych ~ Mai 18fed, 1882.